Friday, 21 April 2023

CYMRU HAS BEEN "GIVEN" A SO CALLED "CROSS OF WALES" BY CHARLES WINDSOR TO CELEBRATE HIS CORONATION, REALLY? STUFF YOUR TRINKET CHARLES AND GIVE US BACK THE 'TRUE CROSS OF CYMRU, THE CROES NAID

 TO BEGIN, LET'S GET AT THE TRUTH SO, READ THE HISTORY IN REGARDS TO WHAT HAPPENED TO OUR 'TRUE' CROES NAID', THE TRUE CROSS OF CYMRU, IN THE FOLLOWING LINKS.

https://www.itv.com/news/wales/2023-04-19/symbolic-cross-chosen-by-king-to-lead-his-coronation

https://metro.co.uk/2023/04/19/what-is-the-cross-of-wales-which-will-lead-the-coronation-procession-186

31415/ #https://en.wikipedia.org/wiki/Cross_of_Neith

THE HISTORICAL TRUTH

http://cofiwn.blogspot.com/2016/05/y-croes-


https://brenhinolcymru.blogspot.com/2019/07/y-croes-naid-forgotten-national.html


NEXT, HERE IS AN IMAGE OF OUR CROES NAID AS ILLUSTRATED IN THE CEILING OF ST GEORGE'S CHURCH AT WINDSOR CASTLE.


Now, every Cymric patriot is aware of the gruesome murder of Tywysog Llywelyn ap Gruffydd at Aberedw on that fateful day on the 11th December 1282 thanks to the pioneering work of the COFIWN movement because, you sure as hell will not be taught this history via the "Welsh" curriculum in Cymric schools, and know that, as Llywelyn laid dying in that cave, the Croes Naid, which held a small piece of the true cross that Jesus Christ was crucified on, was quickly taken off his body by a loyal priest and was taken back to Gwynedd and handed over to "safe hands" so it was thought, however, following the capture of Dafydd ap Gruffydd, Llywelyn'n brother and his family in 1283, the Croes Naid, along with other royal treasures of the Royal House of Gwynedd were handed over to Edward I by Llywelyn's clerics. The sacred Croes Naid, which Llywelyn used to carry around his neck when going into battle and which he would show to his soldiers preceding a battle to encourage them that God was on their side, was handed over to Edward 1 at Aberconwy castle by the cleric and traitor Huw ap Ithel, who was rewarded with a colourful mantle to wear, and an Oxford scholarship! Then, when Edward 1 returned to London in 1285, he celebrated his conquest of Cymru with a parade at which he displayed the pillaged royal treasures of Cymru and he led the parade carrying the sacred Croes Naid.

Over the yrs since, meagre attempts have been made to retrieve our royal treasures including the Croes Naid but, the English State and Royalty have never handed anything back and have stated that they do not know what has happened to our Croes Naid which was a very important symbol of Cymric Resistance when in Cymric hands so,  we are pretty confident that they lie  when they deny  knowledge as to its whereabouts, In the first instance, do they 'really' expect us to believe that they would 'lose' such an important relic? Of course not! 

In 1980, whilst COFIWN was busily organising a full year's calendar of events to commemorate the 700th anniversary of the murder of  Tywysog Llywelyn ap Gruffydd in 1982, a very knowledgeable Priest and sympathiser informed us that, following his victory parade, Edward I had the Cymric Croes Naid placed in the ceiling of Windsor Castle, we gave this information to an English TV presenter who was covering the commemorative events we were organising, and she followed this up.Windsor Castle denied any knowledge of the relic! and now, in time for Charles Windsor's coronation, he has 'cynically' presented Cymru with a so called 'Cross of Wales' as the media are already referring to it, and like Edward I, he is to carry this "Cross of Wales" in his coronation procession before it is finally handed over to be kept at St David's Cathedral.

This week, with well organised media coverage, this 'trinket' was displayed and blessed by the new Archbishop of Cymru at a church in Llandudno, who 'thanked' the new King of England for the gift! Who gave him the authority to accept this trinket as a 'poor' replacement for our own Croes Naid? Certainly not me! If he is representing religious authority in Cymru, he 'should' be leading a campaign to get our true Croes Naid returned to Cymru! He has acted no better than Huw ap Ithel who handed over the Croes Naid to Edward 1 in the first place so, he can be placed on the list of today's traitors, shame on him!

BEWARE OF GREEKS BEARING GIFTS!

The Cymry must realise that this 'present' by Charles Windsor is another 'cynical' move by Buckingham Palace and Whitehall to 'tighten' our chains even tighter to their crumbling British State  and they are advised and assisted by "Welsh" traitors who are not deserving of being called Cymry! It is only a few years ago that a grovelling little ass licking weasel of a Tory Welsh Secretary called Alun Cairns came up with the idea of renaming Pont Hafren to the...wait for it..."Prince of Wales Bridge" promoted as such then and now by a quisling Welsh Media that have continued to use it and the insulting name is still in place due to the 'apathy' and utter 'lazyness' of Cymric 'so called' patriots to fight against it!

The renaming of Bont Hafren was another ploy to strengthen and tighten our chains to the British State and we, in Llysgenhadaeth Glyndwr did our best to fight the move. We campaigned, rigorously, to have the name changed to Pont Glyndwr if it was to be changed to anything and campaigned for months, with a very good publicity programme and an excellent line up of speakers to have a massive rally at the doors of the Welsh Office to protest strongly against the name change that Alun Cairns was going to carry out. I was naïve enough to buy a good sound system for the protest as I was confident that at, the least, 1,000 Cymric patriots would turn up. Fool me, only five people turned up- three of which were the speakers!

SHAME ON ALL WHO CALL THEMSELVES WELSH PATRIOTS AND ACTIVISTS AND WHO HAVE THE CHEEK TO OPEN FB PAGES WITH REVOLUTIONARY NAMES AND PRETEND THAT YOU AND YOUR MEMBERS, THOSE WHO JOIN EVERYTHING AND DO BUGGER ALL, ARE THE BIGGEST PATRIOTS AND ACTIVISTS EVER, WHEN YOU CAN'T BE BOTHERED TO GET OFF YOUR FACEBOOK BUMS AND COME OUT TO PROTEST, LET ALONE FIGHT', WHEN IT COMES TO SUCH IMPORTANCE ISSUES THAT MEAN FIGHTING TO FREE YOURSELF FROM ENGLAND'S CHAINS!  Alun Cairns must have been at his office window laughing his head off! 

So, who this time is up to, vigorously, protesting against this latest 'big time' insult and attempt to further forge us to the English State and royalty? I will not be organising opposition to this latest BIG TIME INSULT' and if this 'trinket is accepted, we most definately do not deserve our Independence back and, if this 'false cross is accepted, the British State and Royalty will have won and any hope of Independence will be extinguished forever and the British State is very aware of this.

So, I am suggesting that opposition to this blatant and latest 'INSULT' should be mobilized by Plaid Cymru, our "National Party" and I will now, appeal to them, along with the Yes Cymru movement to refuse acceptance of this 'false cross' and to demand our own true Croes Naid back immediately if they are serious in regards to winning Independence as, if they don't, any hope of Independence will be in the bin so, what is their purpose then in existing?

Be in no doubt, Buckingham Palace and the British State organise years ahead and they have Welsh Traitors and Collaborators to help them with every move concerning Cymru - just as they did in the years preceding the 1911 Investiture in the form of 'traitors such as Lloyd George and following that circus, the "Welsh" arch druid Cynan preceding the 1969 Investiture.

The present day Welsh traitors will certainly be on the planning committee for this coronation and without any doubt, it will have been them that has provided the Palace and Charles with the information about our true Croes Naid and suggested that a similar 'trinket' would win over the Cymry and forge support for Charles. And, of course, sadly, the majority of Cymry have been deprived of their history in regards to the true Croes Naid so, once again, they can be easuily 'hoodwinked'!

Without doubt, It is one of these current Welsh traitors that persuaded Dafydd Iwan to Drive down to Myddfai a couple of yrs ago,to meet Charles Windsor at his holiday home there, to publiclly shake his hand and in front of a stream of media cameras. Why? In preparation for the upcoming Investiture of William, the new English Prince of Wales at Caernarfon of course, and Dafydd Iwan is up there placed on a pedestal by gullible "so called" Cymric patriots! Wylit, Wylit Llywelyn right enough!

SO, FELLOW CYMRY, DON'T BE HOODWINKED THIS TIME BY THE BRITISH STATE AND ITS PUPPET SHOWS, DEMAND THAT PLAID CYMRU AND YES CYMRU START A RIGOUROUS CAMPAIGN TO GET OUR TRUE CROES NAID BACK. SHOW THE WORLD THAT WE ARE STILL FIGHTING FOR OUR FREEDOM AND WE WILL NOT BE BOUGHT OUT WITH FALSE TRINKETS!                  

Wednesday, 19 April 2023

Y GROES NAID I ARWAIN GORYMDAITH CORONI CHARLES WINDSOR MEDDA NHW, OND PA GROES NAID, Y WIR GROES NAID FFUG SEF, YR UN SYDD I'W 'ANRHEGU' I GYMRU FEL RHAN O DDATHIADAU CORONI CHARLES WINDSOR?

GWELER YN Y DOLENNAU ISOD:

https://www.itv.com/news/wales/2023-04-19/symbolic-cross-chosen-by-king-to-lead-his-coronation

https://metro.co.uk/2023/04/19/what-is-the-cross-of-wales-which-will-lead-the-coronation-procession-186

31415/ #https://en.wikipedia.org/wiki/Cross_of_Neith

THE HISTORICAL TRUTH

http://cofiwn.blogspot.com/2016/05/y-croes-


AC YNA, CEIR Y GWIRIONEDD:


https://brenhinolcymru.blogspot.com/2019/07/y-croes-naid-forgotten-national.html



Mae pob Cymro a Chymraes gwlatgarol yn ymwybodol o hanes trychinebus llofruddiaeth Tywysog ap Gruffydd yn Aberedw ar Ragfyr 11 1282, ac fe dylai'r mwyafrif wybod yr hanes parthed sut bu i 'r Groes Naid gael ei 'roi' i Edward I yn Aberconwy gan un o glericlwyr Llywelyn sef, y bradwr Huw ap Ithel, wedi i Dafydd a'r gweddill o'i deulu gael eu bradychu a'u cipio ar Fynydd Bera Mawr uwchben Abergwyngregyn. Gwobr Huw ab Ithel am y fradwriaeth oedd mantell amrywliw ac ysgoloriaeth i Rydychen! Gweler yr hanes yn y ddolen isod:   

https://cy.wikipedia.org/wiki/Y_Groes_Naid

Ar newyddion ddoe, roedd pob un o'r cyflwynwyr 'Cymreig' parchus yn cyfeirio at groes Charles Windsor fel "Croes Cymru". Dewch i bawb fod yn glir, nid "Croes Cymru" mohoni o gwbl. Cludwyd 'wir Groes Naid Cymru, yn nwylo Edward I, i Lundain yn 1983 lle cafodd ei harddangos, gyda thrysorau eraill o Gymru, mewn gorymdaith fuddugoliaethus ym mis Mai 1285, gyda brenin a brenhines Lloegr, eu plant, arglwyddi mawr a 14 esgob yn cymryd rhan. A dyna mae Charles Windsor am ei efelychu ar y 6ed o Fai eleni ac, unwaith eto, mae'r Cymry yn cael eu twyllo gan beiriant propaganda Palas Buckingham, gyda chymorth y cyfryngau a bradwyr eraill yng Nghymru, i dderbyn symbol "ffug" sy'n cael ei gyflwyno fel modd o glymu ein cadwynau yn gadarnach fyth i'w brenhiniaeth Brydeinig nhw.


Defnyddiwyd yr un strategaeth yn union gyda'r penderfyniad i ail enwi Pont Hafren i'r "Prince of Wales Bridge", ac er gwaethaf protestiadau o'r ddwy ochr i'r bont dyna a wnaed ac yn sicr, bydd y strategaeth yn gweithio eto gyda'r groes "ffug" yma os na fydd yna lais digon uchel i rwystro hynny rhag cael digwydd.

Ond pwy fydd yn arwain y gwrthwynebiad y tro yma? Fydda ni ddim! Bu i Lysgenhadaeth Glyndŵr geisio a threfnu protestiadau yn erbyn ail enwi Pont Hafren a chyhoeddwyd y byddai yna "Rali Fawr" i ddangos gwrthwynebiad gerbron i'r "Swyddfa Gymreig" a bu i'r "Rali Fawr" arfaethedig gael ei hysbysebu’n drwyadl ar hyd a lled y cyfyngiadau cymdeithasol am fisoedd ac am fy mod wedi bod a gormod o ffydd yn fy nghyd-wladgarwyr neu, am fy mod yn rhy naïf i wybod yn well, prynais sustem sain ar gyfer y rali arfaethedig gan ddisgwyl y byddai, o leiaf, 1000 yn troi i fynnu i brotestio ond, dim ond pum person, yn cynnwys y tri siaradwr, drodd fynnu gerbron ddrysau'r "Swyddfa Gymreig"!

 GWARTHUS A CHYWILYDD AR BAWB SY'N GALW EU HUNAIN YN WLADGARWYR CYMREIG AC SY'N DDIGON HY I AGOR TUDALENNAU LU AR FB YN SMALIO MAE CHI YW'R GWLADGARWYR MWYAF A BU AR Y DDAEAR ERIOED! GWARTH! MAE'N SICR FOD YSGRIFENNYDD "CYMRU" YN RHOLIO CHWERTHIN WRTH EDRYCH AR Y PUMP OHONOM DRWY FFENESTR EI SWYDDFA.

Felly, na, fydda ni ddim yn trefnu'r gwrthwynebiad i'r SARHAD diweddaraf yma ac os derbynnir y groes "ffug, tyda ni ddim, yn sicr, yn haeddu ein hannibyniaeth yn ôl ac os derbynnir y groes "ffug", bydd gwladwriaeth Prydain a'u Brenhiniaeth wedi ennill a bydd unrhyw freuddwyd am Annibyniaeth drosodd am byth ac maent yn ymwybodol iawn o hynny.

Fe ddylai gwrthwynebiad i'r fath SARHAD AMRWD gael ei drefnu a'i arwain gan Blaid Cymru ein "Plaid Genedlaethol" ac rwyf yn erfyn arnynt, ynghyd a 'r Mudiad "Yes Cymru" i wrthod y Groes "ffug" ar gyfer ein cenedl os ydynt o ddifrif am adennill Annibyniaeth. Eu dyletswydd fel Plaid a Mudiad sy'n honni eu bod o ddifrif am adennill Annibyniaeth i Gymru yw dweud "Dim Diolch" wrth Charles am ei gynnig tra'n mynnu ei fod yn dychwelyd ein wir Groes Naid ynghyd a'r trysorau eraill a ddygwyd o Gymru ers 1283. Os nad yw Plaid Cymru a Mudiad "Yes Cymru" yn barod i dderbyn y sialens yma o ddifrif yna, i beth yn union maen nhw'n dda? Achos os nad ydynt yn barod i dderbyn y sialens, maent, yn bendant, yn taro'r hoelen olaf yn arch Cymru, bydd dim pwrpas i'w bodolaeth a bydd yn amser iddyn nhw roi'r ffidil yn y to

Mae'n debyg bod Archesgob newydd Cymru wedi derbyn y "groes ffug" ar gyfer Cymru yn barod ac wedi ei bendithio yn Llandudno ddoe, pwy roddodd yr hawl iddo wneud hyn" nid y Cymry, ac yn ddiamau, Yn union fel ag yn y cyfnod yn arwain i fynu at yr Arwisgiad diwethaf yng Nghaernarfon yn 1969, mae yna 'fradwyr Cymraeg a Chymreig' yn brysur wrthi yn cynorthwyo'r gelyn ym Muckinham Palas ac yn cynghori ar sut i sicrhau teyrngarwch y Cymry i Frenhiniaeth Lloegr ac yn ddiamau, y bradwyr hyn ddaeth i fynu gyda'r syniad o gyflwyno'r "groes ffug" i Gymru cyn iddi gael ei defnyddio i arwain y seremoni coroni yn Llundain ac, yn ddiamau, un o'r 'bradwyr yma oedd yn gyfrifol am awgrymu i Dafydd Iwan y byddai'n 'syniad da' iddo ymweld a Charles Windsor yn ei dŷ haf ym Myddfai ac ysgwyd ei law gyda'r cyfryngau yn bresennol ac, yn ddiamau, bydd y bradwyr yma yn parhau yn eu swyddogaeth fel bradwyr i gynghori ar Arwisgiad William. Ydi, 'mae'r bradwyr 'yma o hyd' fel yn 1283.

.MYNNWCH EIN GWIR GROES NAID YN ÔL A DANGOSWCH I'R BYD NA ELLIR EIN PRYNU MO’R RHAD GYDA RHYW DLYSAU FFUG! COFIWCH FOD EIN 'GWIR' CROES NAID YN BWYSIG IAWN I LLYWELYN A FYDDAI'N EI CHARIO WRTH FRWYDRO AC YN EI DANGOS I'W FYDDIN CYN CYCHWYN Y BRWYDRO, FELLY DEWCH I NI AIL-GYDIO YN Y BRWYDRO I'W MYNNU YN ÔL!

Thursday, 6 April 2023

MAE 'CYMRU FYDD' ISLWYN FFOWC ELIS WEDI HEN GYRRAEDD ERBYN HYN, A HYNNY GYDA CHYMORTH EIN GWLEIDYDDION LLIPA YNGHŶD Â DIFATERWCH Y CYMRY: ISLWYN FFOWC ELIS'S SCIENCE FICTION PORTRAIT OF CYMRU IN THE YEAR 2033 HAS ALREADY BECOME A REALITY - THANKS TO THE COLLABORATION OF OUR WIMPISH AND SELFISH POLITICIANS AND THE CYMRY WHO FAILED TO FIGHT AGAINST IT HAPPENING! RU IN 2033 HAS

 FEL MAN CYCHWYN, EDRYCHWCH AR Y DATGANIAD ISOD O UN O'R CYNLLUNIAU DATBLYGU DIWEDDARAF SYDD WEDI EI GYFLWYNO I GYNGOR GWYNEDD:


 Mynytho Pen Lleyn yw lleoliad yr adeiliadau a thir sy'n cael eu cyflwyno fel safle ar gyfer y datblygiad arfaethedig uchod, ardal  sy'n llawn o gymwysterau ar gyfer ymwelwyr fel ag y mae - heb sôn am bentref gwyliau enfawr Hafan y Môr rownd y gornel felly, fel mae'r trigolion lleol wedi lleisio'n glir yn barod, byddai datblygiad o'r math, sy'n cynnig dim i drigolion yr ardal - ar wahân i chydig o swyddi tymhorol, sy'n talu cyflogau gwael, a chynnydd mewn traffic ar hyd lonnau cul, sy'n dioddef o'r melltith yna yn barod,  yn ystod y tymhorau gwyliau, ddim o fudd i'r ardal, byddai ond o fudd ariannol, enfawr, i'r datblygwr sydd wedi gwneud y cais datblygu os bu i'r cais gael ei ganiatau ynte?. 

Ac yn ôl yr hyn rwy'n ei ddeall, dyn o 'Cheshire' yw'r datblygwr arfaethedig! Dwn i ddim sut bu iddo gael ei grafannau ar y tir yn y lle cyntaf ond, dyma engraifft clasurol o'r hyn sy'n digwydd ers degawdau lawer bellach ar hyd a lled ein cenedl - a hynny o dan ein trwynau sef, estroniaid yn prynu ein tir a thai  ac yn rheibio ein adnoddau cynhenid. 

Iawn i  dynnu sylw tuag at y sefyllfa drychinebus sy'n bodoli drwy chwifio baneri mewn raliau protest ond tydi hynny ynghŷd  â chanu'r gân nawddoglys a chamarweiniol 'na ein bod ni 'yma o hyd' ddim, yn eu hunain  yn mynd i achub ein cymunedau Cymreig; claddu ein pennau o dan tywod yw hynny. Yr unig ffordd gellid dal y llifeiriant yn ôl yw i gymunedau led-led Cymru, yn yr ardaloedd di-Gymraeg eu hiaith yn ogystal ac yn y Fro Gymraeg,  uno i gadw llygad barcud ar bob eiddo a darn o dir sy'n dod ar werth drwy ein cenedl ac yna i frwydro yn gadarn, fel un corff cenedlaethol ac 'mewn unrhyw ffordd sydd ei angen' i sicrhau nad yw'r eiddo neu tir sydd o dan y chwyddwydr yn disgyn i ddwylo estron. 

Dulliau o weithredu'n uniongyrchol? Defnyddiwch eich dychymyg da chi ond, yn sicr, os ydych yn pryderu o ddifrif am y sefyllfa, mae'n hanfodol erbyn hyn i beidio a bodloni ar raliau, chwifio baneri a mynegi eich pryder ar y cyfryngau cymdeithasol yn unig, tydi hynny'n ddim yn mynd i achub Cymru rhag y rheibio sy'n digwydd iddi ar raddfa beryglus o eang. Fel man cychwyn,  os am sicrhau Deddf Eiddo o werth,  yna, mae'n hen bryd i'r holl grwpiau sy'n mynegi gwrthwynebiad ar y cyfryngau cymdeithasol, ac mae llu ohonyn nhw, i uno yn un corff i drefnu a mynychu protestiadau enfawr  ar stepan drws y Senedd ym Mae Caerdydd, a gwneud hynny'n gyson nes ceir Deddf Eiddo ac, yn ogystal, nes bydd  polisiau gwallgof y Senedd fel 'TAN 6 (sydd o mwy o fudd i fobl dwad ac i gyfalafwyr estron nac yw i frodorion a ffermwyr Cymru) wedi eu dileu am byth. 

Gweler polisi TAN 6 yn y ddolen isod a gan nad yw'r mwyafrif o Gymru a'u 'bys ar y pwls' parthed y math bolisiau sy'n cael eu dyfeisio lawr ym Mae Caerdydd, mae'r polisi yma, ynghyd a rai gwallgof tebyg fel TAN 8, sy'n llenwi ein mynyddoedd a melinau gwynt costus a chwbl aneiffeithiol, yn cael ei gweithredu o dan ein trwynau ers blynyddoedd bellach.

Gweler y ddolen isod am mwy o wybodaeth am bolisi TAN 6. 

https://www.gov.wales/sites/default/files/publications/2019-06/planning-permission-one-planet-developments-in-open-countryside.pdf

A dyma ddolen sy'n dangos yn union sut mae lluoedd o'r  pobl dwad yn cael pob arweiniaeth a chymorth ar sut i elwa o'r polisi yna:

https://lammas.org.uk/en/welcome-to-lammas/

Wrth gwrs, mae rhwydd hunt i Gymry fanteisio yn yr un modd i'r diben o sefydlu cymunedau Cymreig a Chymraeg tebyg, ac, yn fy nhyb i, dyma fydda'r symudiad mwyaf positif y gellir ei wneud tuag cyflawni'r nod o ad-ennill annibyniaeth ac achub cartrefi, cymunedau a'r hynny o dir sydd ar ôl cyn i'r cyfan ddiflannu i ddwylo estron. Dyma fodd o weithredu a byw tuag at annibyniaeth, a, diolch i Dduw, mae gwlatgarwyr Cymreig mewn cymunedau fel Blaenau Ffestiniog wedi cychwyn gweithredu tuag at annibyniaeth yn y modd hyn yn barod drwy sefydlu rhandiroedd fel modd o dyfu bwyd iachus ar gyfer eu cymunedau, gellir adeiladu ar y modd yma o Annibyniaeth ymhellach drwy fanteisio ar y polisi TAN 6 sydd ohoni a gweithredu i sicrhau i'r polisiau yma fod er budd cadw cymunedau Cymreig yn fyw yn hytrach nac er budd hwyluso'r ffordd i fobl dwad brynu tir a setlo fel ag sy'n digwydd gyda'r polisi ar hyn o bryd. 

Ydi'r Cymry a'r gallu i fanteisio ar y polisi tan 6 yn yr un modd ag mae'r 'pobl dwad' yn ei wneud? Cawn weld ond, mae up peth yn sicr, os na wnawn, bydd dim tir na chymunedau ar ôl a dim gobaith mul am Annibyniaeth. Cawn yr hyn rydym yn ei haeddu o achos difaterwch a diogrwydd.

Gweler y ddolen isod, roeddem yn protestio ym mhentref Aberllefenni tair mlynedd yn l i dynnu sylw at y ffaith bod holl dai y pentref ar werth, gallai Cymry wedi uno i brynu'r pentref a sicrhau bod y gymuned yn aros yn gymuned Cymreig a gellid wedyn mynd gam ymhellach drwy sicrhau bod busnesau bach yn cael eu sefydlu yn y gymuned, dyna yw 'Annibyniaeth ar waith'! ond, dyna fo, prynwyd y pentref gan 'fobl dwad' cefnog sydd ddim, hyd yn oed a'r bwriad i fyw yn y pentref, buddsoddiad yn unig ydio iddyn nhw ac, y newyddion diweddaraf yw eu bod am godi rhent y tenantiaid 60% ! Ffordd da i wagio'r tai byddwn i yn ei dybio! Mae'r tenantiaid i gyd wedi datgan nad oes ganddyn nhw y modd i dalu'r fath godiad!

https://sianifan.blogspot.com/2020/09/maen-rhaid-i-ni-gyd-ymladd-yn-ol.html?fbclid=IwAR2rQWKsj1FUILYQSLMis12qDbR9gPsSp95JrSWxmhy-_An0pgIH6yO3BGQ


Pwy sy'n mynd i sefyll yn y fai i sicrhau nad yw tenantiaid pentref  Aberllefenni yn gorfod gadael eu cartrefi, ein Plaid 'Genedlaethol'? y "Siop Siafins" ym Mae Caerdydd? Cawn weld, yn sicr, mae'n orfodol i weithredu ar frys i sicrhau nad yw rhent y tenantiaid yn codi du hwnt i'w gallu i dalu'r codiad. Eto, mae'n bwysig iawn i gadw llygad barcud ar y sefyllfa yma yn does? Gellir cychwyn, drwy lythyru at Plaid Cymru a'r Pwyllgor Tai yn y "Siop Siafins" ym Mae Caerdydd i fynnu cael gwybod beth maent am ei wneud i sicrhau bod cartrefi Pobl Aberllefenni yn ddiogel. 

Fel i fi nodi yn gynharach, mai'n bwysig i gadw llygaid ar yr hyn sy'n cael ei ddinistrio yn Nê Cymru yn ogystal a'r gweddill o Gymru ac y newyddion diweddaraf yw fod y "Siop Siafins" wedi prynu 20 hectatau o dir yn 'Sandy Bay' Porthcawl  gyda'r bwriad o adeiladu 900 o dai ar y tir fel rhan o'r cynllun mawr i 'adfywio'r dref. Cytunaf bod angen adfywio'r dref erbyn hyn ond, mae yna elfennau o'r 'Cynllun Adfywio' sy'n peru pryder. Er engraifft, parthed y bwriad i adeiladu 900 o dai ac  mae Julie James AS wedi datgan bod hanner y tai yma yn mynd i fod yn rai 'fforddadwy' ond, fforddadwy i bwy? Faint o'r trigolion lleol bydd a'r modd i'w prynu? Yna, parthed y 450 arall, pwy sy'n mynd i brynu rheini - ac o ble bydd y prynwyr yma'n dod? Byddai hyn yn golygu mewnlifiad enfawr o fobl dwad i fudo'n barhaol i Borthcawl! Yn fy nhyb i, gyda'r prinder tai sy'n bodoli drwy'r bwrdeisdref ar gyfer y trigolion lleol, fe ddylai'r "Siop Siafins" fod yn canolbwyntio bod y cyfan o'r tai sydd i'w hadeiladu yn cael eu hadeiladu ar gyfer dibenion lleol. Yna, parthed y ffair sy'n sefyll ers y 1920au ac sy'n rhan o'n etifeddiaeth erbyn hyn gyda miloedd o atgofion melys am ei mynychu dros y degawdau, bwriedir cael gwared ohoni! Bu i nifer enfawr o deuluoedd o'r cymoedd fuddsoddi eu harian prin mewn carafan a'u cadw ym Mae Trecco i'w galluogi i cael gwyliau fforddiadwy ym Mhorthcawl ar y traeth ac yn agos i'r ffair. Pwy sy'n ystyried hawliau y bobl yma? Oes ffair newydd gwell yn mynd i gael ei gynnwys yn y cynllun? 

Dylai unrhyw Gynllun Adfywio yn unrhyw le yng Nghymru gymryd angenion y boblogaeth leol i ystyriaeth namyn dim a neb arall.

Gweler dolen i'r Cynllun Adfywio ynghyd a datganiad parthed y cynllun am y 900 o dai fforddiadwy. Gofynnir am sylwadau ynghyd a chynigion ar y ddolen cyntaf, felly, plis, plis, gyrrwch eich sylwadau a chynigion.

https://www.bridgend.gov.uk/news/new-welsh-government-land-deal-unlocks-ambitious-future-for-porthcawl/


Gallwn fynd ymlaen ac ymlaen ac ysgrifennu cyfrolau am yr holl werthu sy'n cymryd lle yng Nghymru, gwerthu a fydd yn cario'n mlaen nes bod dim ar ôl mewn dwylo Cymreic os na wnawn DDEFFRO ac ymladd yn ôl yn ddioed ac yn ddi-flino ac mewn unrhyw modd sy'n bosibl, ond, cyn i fi ddiweddu, mae'n orfodol i fi dynnu sylw pawb at y ffaith bod un o Aelodau Seneddol Cymru, sef, Liz Saville Roberts wedi bod yn hysbysebu bod tŷ o'i heiddo i'w osod yn Morfa Nefyn, gweler yr hysbyseb isod:



Rwan, rwy'n cymryd yn ganiataol, wrth gwrs, y bydd Liz Saville Roberts yn gosod y tŷ i deulu lleol - hyd yn oed os oes rhaid gostwng y rhent ofynnir amdano er mwyn ei wneud yn fforddiadwy i deulu lleol ond, does dim sicrwydd o hynny'n digwydd, felly, gofynnir i drigolion lleol gadw llygaid barcud ar yr hyn sydd yn digwydd parthed y tŷ yma, oes rhywun yn gwybos yw yw wedi cael ei osod eto - ac i bwy?

A thra's sôn am yr Aelod Seneddol Liz Saville Roberts, dwi wedi derbyn darn bach ychwanebol o wybodaeth sy'n ansawrus i ddweud y lleiaf a dyma fo:


Gweler uchod, nodyn sy'n dangos bod Liz Saville Roberts wedi 'gorfod' datgan iddi dderbyn gwerth £49.960 mewn rhoddion, oes rhywun yn gwybod mwy am hyn? cyfraniadau oddi wrth bwy - i bwy? Rhoddion a budddaliadau am beth yn union? ac, am pa hyd o gyfnod oedd y taliadau yma? tydi derbyn ciliau dwrn, a hynny'n ddirgel, ddim yn dderbyniol mewn unrhyw sefyllfa wleidyddol ac mae'n ddyletswydd ar Liz Saville Roberts i ddatgan yn glir, ar ran bwy ac ar ran pa bwrpas bu iddi dderbyn yr arian yma ac ymhle mae'r arian erbyn hyn.

Gobeithio'n wir gwelir ddatganiad onest ganddi parthed hanes yr arian yma a'r hyn sydd wedi digwydd iddo.

 

PASG HAPUS A DEDWYDD I CHI GYD.