Wednesday 19 April 2023

Y GROES NAID I ARWAIN GORYMDAITH CORONI CHARLES WINDSOR MEDDA NHW, OND PA GROES NAID, Y WIR GROES NAID FFUG SEF, YR UN SYDD I'W 'ANRHEGU' I GYMRU FEL RHAN O DDATHIADAU CORONI CHARLES WINDSOR?

GWELER YN Y DOLENNAU ISOD:

https://www.itv.com/news/wales/2023-04-19/symbolic-cross-chosen-by-king-to-lead-his-coronation

https://metro.co.uk/2023/04/19/what-is-the-cross-of-wales-which-will-lead-the-coronation-procession-186

31415/ #https://en.wikipedia.org/wiki/Cross_of_Neith

THE HISTORICAL TRUTH

http://cofiwn.blogspot.com/2016/05/y-croes-


AC YNA, CEIR Y GWIRIONEDD:


https://brenhinolcymru.blogspot.com/2019/07/y-croes-naid-forgotten-national.html



Mae pob Cymro a Chymraes gwlatgarol yn ymwybodol o hanes trychinebus llofruddiaeth Tywysog ap Gruffydd yn Aberedw ar Ragfyr 11 1282, ac fe dylai'r mwyafrif wybod yr hanes parthed sut bu i 'r Groes Naid gael ei 'roi' i Edward I yn Aberconwy gan un o glericlwyr Llywelyn sef, y bradwr Huw ap Ithel, wedi i Dafydd a'r gweddill o'i deulu gael eu bradychu a'u cipio ar Fynydd Bera Mawr uwchben Abergwyngregyn. Gwobr Huw ab Ithel am y fradwriaeth oedd mantell amrywliw ac ysgoloriaeth i Rydychen! Gweler yr hanes yn y ddolen isod:   

https://cy.wikipedia.org/wiki/Y_Groes_Naid

Ar newyddion ddoe, roedd pob un o'r cyflwynwyr 'Cymreig' parchus yn cyfeirio at groes Charles Windsor fel "Croes Cymru". Dewch i bawb fod yn glir, nid "Croes Cymru" mohoni o gwbl. Cludwyd 'wir Groes Naid Cymru, yn nwylo Edward I, i Lundain yn 1983 lle cafodd ei harddangos, gyda thrysorau eraill o Gymru, mewn gorymdaith fuddugoliaethus ym mis Mai 1285, gyda brenin a brenhines Lloegr, eu plant, arglwyddi mawr a 14 esgob yn cymryd rhan. A dyna mae Charles Windsor am ei efelychu ar y 6ed o Fai eleni ac, unwaith eto, mae'r Cymry yn cael eu twyllo gan beiriant propaganda Palas Buckingham, gyda chymorth y cyfryngau a bradwyr eraill yng Nghymru, i dderbyn symbol "ffug" sy'n cael ei gyflwyno fel modd o glymu ein cadwynau yn gadarnach fyth i'w brenhiniaeth Brydeinig nhw.


Defnyddiwyd yr un strategaeth yn union gyda'r penderfyniad i ail enwi Pont Hafren i'r "Prince of Wales Bridge", ac er gwaethaf protestiadau o'r ddwy ochr i'r bont dyna a wnaed ac yn sicr, bydd y strategaeth yn gweithio eto gyda'r groes "ffug" yma os na fydd yna lais digon uchel i rwystro hynny rhag cael digwydd.

Ond pwy fydd yn arwain y gwrthwynebiad y tro yma? Fydda ni ddim! Bu i Lysgenhadaeth Glyndŵr geisio a threfnu protestiadau yn erbyn ail enwi Pont Hafren a chyhoeddwyd y byddai yna "Rali Fawr" i ddangos gwrthwynebiad gerbron i'r "Swyddfa Gymreig" a bu i'r "Rali Fawr" arfaethedig gael ei hysbysebu’n drwyadl ar hyd a lled y cyfyngiadau cymdeithasol am fisoedd ac am fy mod wedi bod a gormod o ffydd yn fy nghyd-wladgarwyr neu, am fy mod yn rhy naïf i wybod yn well, prynais sustem sain ar gyfer y rali arfaethedig gan ddisgwyl y byddai, o leiaf, 1000 yn troi i fynnu i brotestio ond, dim ond pum person, yn cynnwys y tri siaradwr, drodd fynnu gerbron ddrysau'r "Swyddfa Gymreig"!

 GWARTHUS A CHYWILYDD AR BAWB SY'N GALW EU HUNAIN YN WLADGARWYR CYMREIG AC SY'N DDIGON HY I AGOR TUDALENNAU LU AR FB YN SMALIO MAE CHI YW'R GWLADGARWYR MWYAF A BU AR Y DDAEAR ERIOED! GWARTH! MAE'N SICR FOD YSGRIFENNYDD "CYMRU" YN RHOLIO CHWERTHIN WRTH EDRYCH AR Y PUMP OHONOM DRWY FFENESTR EI SWYDDFA.

Felly, na, fydda ni ddim yn trefnu'r gwrthwynebiad i'r SARHAD diweddaraf yma ac os derbynnir y groes "ffug, tyda ni ddim, yn sicr, yn haeddu ein hannibyniaeth yn ôl ac os derbynnir y groes "ffug", bydd gwladwriaeth Prydain a'u Brenhiniaeth wedi ennill a bydd unrhyw freuddwyd am Annibyniaeth drosodd am byth ac maent yn ymwybodol iawn o hynny.

Fe ddylai gwrthwynebiad i'r fath SARHAD AMRWD gael ei drefnu a'i arwain gan Blaid Cymru ein "Plaid Genedlaethol" ac rwyf yn erfyn arnynt, ynghyd a 'r Mudiad "Yes Cymru" i wrthod y Groes "ffug" ar gyfer ein cenedl os ydynt o ddifrif am adennill Annibyniaeth. Eu dyletswydd fel Plaid a Mudiad sy'n honni eu bod o ddifrif am adennill Annibyniaeth i Gymru yw dweud "Dim Diolch" wrth Charles am ei gynnig tra'n mynnu ei fod yn dychwelyd ein wir Groes Naid ynghyd a'r trysorau eraill a ddygwyd o Gymru ers 1283. Os nad yw Plaid Cymru a Mudiad "Yes Cymru" yn barod i dderbyn y sialens yma o ddifrif yna, i beth yn union maen nhw'n dda? Achos os nad ydynt yn barod i dderbyn y sialens, maent, yn bendant, yn taro'r hoelen olaf yn arch Cymru, bydd dim pwrpas i'w bodolaeth a bydd yn amser iddyn nhw roi'r ffidil yn y to

Mae'n debyg bod Archesgob newydd Cymru wedi derbyn y "groes ffug" ar gyfer Cymru yn barod ac wedi ei bendithio yn Llandudno ddoe, pwy roddodd yr hawl iddo wneud hyn" nid y Cymry, ac yn ddiamau, Yn union fel ag yn y cyfnod yn arwain i fynu at yr Arwisgiad diwethaf yng Nghaernarfon yn 1969, mae yna 'fradwyr Cymraeg a Chymreig' yn brysur wrthi yn cynorthwyo'r gelyn ym Muckinham Palas ac yn cynghori ar sut i sicrhau teyrngarwch y Cymry i Frenhiniaeth Lloegr ac yn ddiamau, y bradwyr hyn ddaeth i fynu gyda'r syniad o gyflwyno'r "groes ffug" i Gymru cyn iddi gael ei defnyddio i arwain y seremoni coroni yn Llundain ac, yn ddiamau, un o'r 'bradwyr yma oedd yn gyfrifol am awgrymu i Dafydd Iwan y byddai'n 'syniad da' iddo ymweld a Charles Windsor yn ei dŷ haf ym Myddfai ac ysgwyd ei law gyda'r cyfryngau yn bresennol ac, yn ddiamau, bydd y bradwyr yma yn parhau yn eu swyddogaeth fel bradwyr i gynghori ar Arwisgiad William. Ydi, 'mae'r bradwyr 'yma o hyd' fel yn 1283.

.MYNNWCH EIN GWIR GROES NAID YN ÔL A DANGOSWCH I'R BYD NA ELLIR EIN PRYNU MO’R RHAD GYDA RHYW DLYSAU FFUG! COFIWCH FOD EIN 'GWIR' CROES NAID YN BWYSIG IAWN I LLYWELYN A FYDDAI'N EI CHARIO WRTH FRWYDRO AC YN EI DANGOS I'W FYDDIN CYN CYCHWYN Y BRWYDRO, FELLY DEWCH I NI AIL-GYDIO YN Y BRWYDRO I'W MYNNU YN ÔL!