Sunday 15 September 2024

DYDD OWAIN GLYNDWR 2024...AC MAE'R RHYFEL DROS EIN HANIBYNIAETH YN PARHAU!


DYDD OWAIN GLYNDWR 2024


I gychwyn, newwyddion cyffrous iawn! Mae Cadw (o'r diwedd) wedi gweld y goleuni! Wedi dros 25 o flynyddoedd o ofyn drosodd a throsodd i Cadw, o gyfeiriad Llysgenhadaeth Glyndwr, iddyn nhw gydnabod Tywysog Owain Glyndwr a'i Rhyfel Fawr dros Annibyniaeth, ac wedi dros 25 o flynyddoedd o fod yn ddraenen yn ochr y corff tra'n ceisio i'w cael, o leiaf, i chwifio baner Glyndwr ar gestyll ac adeiliadau a safleoedd eraill o dan eu gofal ar Ddydd Owain Glyndwr, maent, eleni, wedi cyhoeddi ar eu safle ar y we eu bod am gynnal gweithgareddau i ddathlu Dydd Owain Glyndwr yn y safleoedd dan eu gofal ar hyd a lled Cymru.

Gweler y newyddion yn y ddolen isod:

https://www.leaderlive.co.uk/news/24568090.cadw-opens-doors-free-celebrate-owain-glyndwr-day/ 

Mae hyn yn newyddion i'w groesawu'n fawr ond mae'n rheidrwydd ar Cadw rwan i ddysgu y termau cywir, sef, Rhyfel am Annibyniaeth Cymru oedd/yw Rhyfel Owain Glyndwr ac nid 'gwrthryfel byr dymor'. Hefyd mae'n bwysig i ni gyd fel gwlatgarwyr a chefnogwyr o'r rhyfel dros Annibyniaeth i'n gwlad i sicrhau bod Cadw, a'r Senedd, yn chwifio baner ein Tywysog brodorol ar eu safleoedd ar Ddydd Owain Glyndwr yn flynyddol. Mae Llysgenhadaeth Glyndwr wedi gwobrwyo'r Senedd a baner enfawr wedi ei brodio ers y flwyddyn 2001, ac fe roedda nhw yn ei chwifio am ychydig o flynyddoeded  wedi hynny ond, mae'n gofyn i pob wladgarwr sicrhau eu bod nhw, a Cadw, yn  chwifio'r faner yn flynyddol. Hyd yma, mae Cadw wedi defnyddio'r esgus nad oes ganddyn nhw ddigon o bolynion yn eu safleoedd i osod baner ond, erbyn hyn, gan eu bod am gynnal gweithgareddau ar hyd a lled Cymru, medda nhw, bydd angen chwifio'r faner yn uchell yn ystod y gweithgareddau hyn yn bydd?

Tra ar y pwnc o chwifio Baner Glyndwr, mae'n hen bryd gwynebu'r ffaith moel NAD YW MACHYNLLETH YN HAEDDU CAEL EU ANRHYDEDDU A HAN ES OWAIN GLYNDWR! Er i Cofiwn a Llysgenhadaeth Glyndwr geisio ein gorau glas ar hyd y blynyddoedd ers y 1970au cynnar i berswadio a chynorthwyo tref Machynlleth  i fanteisio ar hanes a chysylltiadau cyffrous Owain Glyndwr i hybu'r dref, ac er i ni gynnal Gwyl Glyndwr pedwar diwrnod o hyd yno yn 2004, ta waeth pryd ewch drwy'r dref, welwch chi ddim un baner Glyndwr yn chwifio - dim, hyd yn oed, ar y "Senedd-dy"!! ac, os ewch i mewn i'r adeilad, peidiwch a disgwyl gweld unrhyw arddangosfa ar hanes Owain Glyndwr a'r Rhyfel am Annibyniaeth! A peiiwch a disgwyl gweld 'Cleddyf y Genedl' y trysor unigryw a gyflwynwyd yn anrheg i'r Ganolfan gan Lysgenhadaeth Glyndwr yn ystor Yr Wyl Mawr yn 2004, mae y cleddyf yn cael ei gadw o'r golwg mewn un o'r ystafelloedd gwag lan lloft!

Os ydych am weld arddangosfa gwych ar hanes Owain Glyndwr a'i Rhyfel fawr dros Annib yniaeth ein cenedl, yna Amgueddfa tref Corwen i'w lle i fynd. Gellir cael blas ar Arddang- osfa clodwiw yno ynghyd a chyfle i ddarganfod ymhle mae 'Trysorau Cenedlaethol Newydd Cymru yn cael eu cartrefu erbyn hyn. Yn yr Amgueddfa yn ogystal, gellir gweld cerrig coffa Arwyr Glyndwr, maent wedi cael eu cartrefu yno wedi' i'r Ardd Goffa gael ei dinistrio yng Nghefn Caer wedi marwolaeth Elfyn Rowlands a'i chwaer.




Bydd Gwyl Dydd Glyndwr blynyddol Corwen yn cymryd lle fory, ar Medi 16 ac, fel arfer, bydd y dref yn llawn dop o faneri Glyndwr, felly, Corwen yw3'r lle i fod fory os am foddi eich hunan yn hane4s ein harwr cenedlaethol mwyaf - ac os am baratoi...yaa gwyliwch y ffilm isod ar     Youtube, mae'n hen ffilm bellach, ac mae'r canwr wedi 'gwerthu allan' drwy fynd i Myddfai i ysgwyd llaw a chael te prynhawn gyda brenin Lloegr - twll ei din o! ond mae'r neges yn y gan a'r ffilm yr un o hyd. 

https://www.youtube.com/watch?v=SAanMfDbUV4




  

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home