MAE 'CYMRU FYDD' ISLWYN FFOWC ELIS WEDI HEN GYRRAEDD ERBYN HYN, A HYNNY GYDA CHYMORTH EIN GWLEIDYDDION LLIPA YNGHŶD Â DIFATERWCH Y CYMRY: ISLWYN FFOWC ELIS'S SCIENCE FICTION PORTRAIT OF CYMRU IN THE YEAR 2033 HAS ALREADY BECOME A REALITY - THANKS TO THE COLLABORATION OF OUR WIMPISH AND SELFISH POLITICIANS AND THE CYMRY WHO FAILED TO FIGHT AGAINST IT HAPPENING! RU IN 2033 HAS
FEL MAN CYCHWYN, EDRYCHWCH AR Y DATGANIAD ISOD O UN O'R CYNLLUNIAU DATBLYGU DIWEDDARAF SYDD WEDI EI GYFLWYNO I GYNGOR GWYNEDD:
Mynytho Pen Lleyn yw lleoliad yr adeiliadau a thir sy'n cael eu cyflwyno fel safle ar gyfer y datblygiad arfaethedig uchod, ardal sy'n llawn o gymwysterau ar gyfer ymwelwyr fel ag y mae - heb sôn am bentref gwyliau enfawr Hafan y Môr rownd y gornel felly, fel mae'r trigolion lleol wedi lleisio'n glir yn barod, byddai datblygiad o'r math, sy'n cynnig dim i drigolion yr ardal - ar wahân i chydig o swyddi tymhorol, sy'n talu cyflogau gwael, a chynnydd mewn traffic ar hyd lonnau cul, sy'n dioddef o'r melltith yna yn barod, yn ystod y tymhorau gwyliau, ddim o fudd i'r ardal, byddai ond o fudd ariannol, enfawr, i'r datblygwr sydd wedi gwneud y cais datblygu os bu i'r cais gael ei ganiatau ynte?.
Ac yn ôl yr hyn rwy'n ei ddeall, dyn o 'Cheshire' yw'r datblygwr arfaethedig! Dwn i ddim sut bu iddo gael ei grafannau ar y tir yn y lle cyntaf ond, dyma engraifft clasurol o'r hyn sy'n digwydd ers degawdau lawer bellach ar hyd a lled ein cenedl - a hynny o dan ein trwynau sef, estroniaid yn prynu ein tir a thai ac yn rheibio ein adnoddau cynhenid.
Iawn i dynnu sylw tuag at y sefyllfa drychinebus sy'n bodoli drwy chwifio baneri mewn raliau protest ond tydi hynny ynghŷd â chanu'r gân nawddoglys a chamarweiniol 'na ein bod ni 'yma o hyd' ddim, yn eu hunain yn mynd i achub ein cymunedau Cymreig; claddu ein pennau o dan tywod yw hynny. Yr unig ffordd gellid dal y llifeiriant yn ôl yw i gymunedau led-led Cymru, yn yr ardaloedd di-Gymraeg eu hiaith yn ogystal ac yn y Fro Gymraeg, uno i gadw llygad barcud ar bob eiddo a darn o dir sy'n dod ar werth drwy ein cenedl ac yna i frwydro yn gadarn, fel un corff cenedlaethol ac 'mewn unrhyw ffordd sydd ei angen' i sicrhau nad yw'r eiddo neu tir sydd o dan y chwyddwydr yn disgyn i ddwylo estron.
Dulliau o weithredu'n uniongyrchol? Defnyddiwch eich dychymyg da chi ond, yn sicr, os ydych yn pryderu o ddifrif am y sefyllfa, mae'n hanfodol erbyn hyn i beidio a bodloni ar raliau, chwifio baneri a mynegi eich pryder ar y cyfryngau cymdeithasol yn unig, tydi hynny'n ddim yn mynd i achub Cymru rhag y rheibio sy'n digwydd iddi ar raddfa beryglus o eang. Fel man cychwyn, os am sicrhau Deddf Eiddo o werth, yna, mae'n hen bryd i'r holl grwpiau sy'n mynegi gwrthwynebiad ar y cyfryngau cymdeithasol, ac mae llu ohonyn nhw, i uno yn un corff i drefnu a mynychu protestiadau enfawr ar stepan drws y Senedd ym Mae Caerdydd, a gwneud hynny'n gyson nes ceir Deddf Eiddo ac, yn ogystal, nes bydd polisiau gwallgof y Senedd fel 'TAN 6 (sydd o mwy o fudd i fobl dwad ac i gyfalafwyr estron nac yw i frodorion a ffermwyr Cymru) wedi eu dileu am byth.
Gweler polisi TAN 6 yn y ddolen isod a gan nad yw'r mwyafrif o Gymru a'u 'bys ar y pwls' parthed y math bolisiau sy'n cael eu dyfeisio lawr ym Mae Caerdydd, mae'r polisi yma, ynghyd a rai gwallgof tebyg fel TAN 8, sy'n llenwi ein mynyddoedd a melinau gwynt costus a chwbl aneiffeithiol, yn cael ei gweithredu o dan ein trwynau ers blynyddoedd bellach.
Gweler y ddolen isod am mwy o wybodaeth am bolisi TAN 6.
A dyma ddolen sy'n dangos yn union sut mae lluoedd o'r pobl dwad yn cael pob arweiniaeth a chymorth ar sut i elwa o'r polisi yna:
https://lammas.org.uk/en/welcome-to-lammas/
Wrth gwrs, mae rhwydd hunt i Gymry fanteisio yn yr un modd i'r diben o sefydlu cymunedau Cymreig a Chymraeg tebyg, ac, yn fy nhyb i, dyma fydda'r symudiad mwyaf positif y gellir ei wneud tuag cyflawni'r nod o ad-ennill annibyniaeth ac achub cartrefi, cymunedau a'r hynny o dir sydd ar ôl cyn i'r cyfan ddiflannu i ddwylo estron. Dyma fodd o weithredu a byw tuag at annibyniaeth, a, diolch i Dduw, mae gwlatgarwyr Cymreig mewn cymunedau fel Blaenau Ffestiniog wedi cychwyn gweithredu tuag at annibyniaeth yn y modd hyn yn barod drwy sefydlu rhandiroedd fel modd o dyfu bwyd iachus ar gyfer eu cymunedau, gellir adeiladu ar y modd yma o Annibyniaeth ymhellach drwy fanteisio ar y polisi TAN 6 sydd ohoni a gweithredu i sicrhau i'r polisiau yma fod er budd cadw cymunedau Cymreig yn fyw yn hytrach nac er budd hwyluso'r ffordd i fobl dwad brynu tir a setlo fel ag sy'n digwydd gyda'r polisi ar hyn o bryd.
Ydi'r Cymry a'r gallu i fanteisio ar y polisi tan 6 yn yr un modd ag mae'r 'pobl dwad' yn ei wneud? Cawn weld ond, mae up peth yn sicr, os na wnawn, bydd dim tir na chymunedau ar ôl a dim gobaith mul am Annibyniaeth. Cawn yr hyn rydym yn ei haeddu o achos difaterwch a diogrwydd.
Gweler y ddolen isod, roeddem yn protestio ym mhentref Aberllefenni tair mlynedd yn l i dynnu sylw at y ffaith bod holl dai y pentref ar werth, gallai Cymry wedi uno i brynu'r pentref a sicrhau bod y gymuned yn aros yn gymuned Cymreig a gellid wedyn mynd gam ymhellach drwy sicrhau bod busnesau bach yn cael eu sefydlu yn y gymuned, dyna yw 'Annibyniaeth ar waith'! ond, dyna fo, prynwyd y pentref gan 'fobl dwad' cefnog sydd ddim, hyd yn oed a'r bwriad i fyw yn y pentref, buddsoddiad yn unig ydio iddyn nhw ac, y newyddion diweddaraf yw eu bod am godi rhent y tenantiaid 60% ! Ffordd da i wagio'r tai byddwn i yn ei dybio! Mae'r tenantiaid i gyd wedi datgan nad oes ganddyn nhw y modd i dalu'r fath godiad!
Pwy sy'n mynd i sefyll yn y fai i sicrhau nad yw tenantiaid pentref Aberllefenni yn gorfod gadael eu cartrefi, ein Plaid 'Genedlaethol'? y "Siop Siafins" ym Mae Caerdydd? Cawn weld, yn sicr, mae'n orfodol i weithredu ar frys i sicrhau nad yw rhent y tenantiaid yn codi du hwnt i'w gallu i dalu'r codiad. Eto, mae'n bwysig iawn i gadw llygad barcud ar y sefyllfa yma yn does? Gellir cychwyn, drwy lythyru at Plaid Cymru a'r Pwyllgor Tai yn y "Siop Siafins" ym Mae Caerdydd i fynnu cael gwybod beth maent am ei wneud i sicrhau bod cartrefi Pobl Aberllefenni yn ddiogel.
Fel i fi nodi yn gynharach, mai'n bwysig i gadw llygaid ar yr hyn sy'n cael ei ddinistrio yn Nê Cymru yn ogystal a'r gweddill o Gymru ac y newyddion diweddaraf yw fod y "Siop Siafins" wedi prynu 20 hectatau o dir yn 'Sandy Bay' Porthcawl gyda'r bwriad o adeiladu 900 o dai ar y tir fel rhan o'r cynllun mawr i 'adfywio'r dref. Cytunaf bod angen adfywio'r dref erbyn hyn ond, mae yna elfennau o'r 'Cynllun Adfywio' sy'n peru pryder. Er engraifft, parthed y bwriad i adeiladu 900 o dai ac mae Julie James AS wedi datgan bod hanner y tai yma yn mynd i fod yn rai 'fforddadwy' ond, fforddadwy i bwy? Faint o'r trigolion lleol bydd a'r modd i'w prynu? Yna, parthed y 450 arall, pwy sy'n mynd i brynu rheini - ac o ble bydd y prynwyr yma'n dod? Byddai hyn yn golygu mewnlifiad enfawr o fobl dwad i fudo'n barhaol i Borthcawl! Yn fy nhyb i, gyda'r prinder tai sy'n bodoli drwy'r bwrdeisdref ar gyfer y trigolion lleol, fe ddylai'r "Siop Siafins" fod yn canolbwyntio bod y cyfan o'r tai sydd i'w hadeiladu yn cael eu hadeiladu ar gyfer dibenion lleol. Yna, parthed y ffair sy'n sefyll ers y 1920au ac sy'n rhan o'n etifeddiaeth erbyn hyn gyda miloedd o atgofion melys am ei mynychu dros y degawdau, bwriedir cael gwared ohoni! Bu i nifer enfawr o deuluoedd o'r cymoedd fuddsoddi eu harian prin mewn carafan a'u cadw ym Mae Trecco i'w galluogi i cael gwyliau fforddiadwy ym Mhorthcawl ar y traeth ac yn agos i'r ffair. Pwy sy'n ystyried hawliau y bobl yma? Oes ffair newydd gwell yn mynd i gael ei gynnwys yn y cynllun?
Dylai unrhyw Gynllun Adfywio yn unrhyw le yng Nghymru gymryd angenion y boblogaeth leol i ystyriaeth namyn dim a neb arall.
Gweler dolen i'r Cynllun Adfywio ynghyd a datganiad parthed y cynllun am y 900 o dai fforddiadwy. Gofynnir am sylwadau ynghyd a chynigion ar y ddolen cyntaf, felly, plis, plis, gyrrwch eich sylwadau a chynigion.
Gallwn fynd ymlaen ac ymlaen ac ysgrifennu cyfrolau am yr holl werthu sy'n cymryd lle yng Nghymru, gwerthu a fydd yn cario'n mlaen nes bod dim ar ôl mewn dwylo Cymreic os na wnawn DDEFFRO ac ymladd yn ôl yn ddioed ac yn ddi-flino ac mewn unrhyw modd sy'n bosibl, ond, cyn i fi ddiweddu, mae'n orfodol i fi dynnu sylw pawb at y ffaith bod un o Aelodau Seneddol Cymru, sef, Liz Saville Roberts wedi bod yn hysbysebu bod tŷ o'i heiddo i'w osod yn Morfa Nefyn, gweler yr hysbyseb isod:
A thra's sôn am yr Aelod Seneddol Liz Saville Roberts, dwi wedi derbyn darn bach ychwanebol o wybodaeth sy'n ansawrus i ddweud y lleiaf a dyma fo:
Gweler uchod, nodyn sy'n dangos bod Liz Saville Roberts wedi 'gorfod' datgan iddi dderbyn gwerth £49.960 mewn rhoddion, oes rhywun yn gwybod mwy am hyn? cyfraniadau oddi wrth bwy - i bwy? Rhoddion a budddaliadau am beth yn union? ac, am pa hyd o gyfnod oedd y taliadau yma? tydi derbyn ciliau dwrn, a hynny'n ddirgel, ddim yn dderbyniol mewn unrhyw sefyllfa wleidyddol ac mae'n ddyletswydd ar Liz Saville Roberts i ddatgan yn glir, ar ran bwy ac ar ran pa bwrpas bu iddi dderbyn yr arian yma ac ymhle mae'r arian erbyn hyn.
Gobeithio'n wir gwelir ddatganiad onest ganddi parthed hanes yr arian yma a'r hyn sydd wedi digwydd iddo.
PASG HAPUS A DEDWYDD I CHI GYD.
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home