Thursday, 1 June 2023

ALBWM GWERTH GWRANDO ARNI...BITTER TEARS BALLADS OF THE AMERICAN INDIAN...AN ALBUM THAT'S A 'MUST' FOR ALL CYMRIC PATRIOTS TO LISTEN TO.

 

Tydwi ddim yn ffan enfawr o Johnny Cash - ar wahân i'r clasuron fel 'Boy named Sue' a Folsom Prison Blues fel pawb arall ond, rwy'n hoff iawn o'r casgliad yma o ganeuon sy'n sôn am y brwydro mae gwahanol lwythau o'r Indiad brodorol yn eu brwydro yn eu gwlad eu hunain, yr Americ, y dyddiau yma. Fel ni'r Cymry, maent yn brwydro i gadw gafael ar eu hunaniaeth, eu hanes, eu tir, eu dŵr a phob math o adnoddau eraill, felly, gellir uniaethu gyda pob un o'r caneuon. Fy fferfyn i, yn ddi-os yw y gân 'Drums' sy'n olrhain hanes y plant yn cael eu 'dwyn' oddi wrth eu teuluordd a'u gosod mewn ysgolion miloedd o filltiroedd i ffwrdd i'r diben o'u 'gwneud' yn 'wyn'! Fferfyn Gethin yw 'As long as the Grass shall Grow' sy'n sôn am foddi cwm er gwaethaf y protestio yn erbyn hynny ac mae hyn wedi digwydd droeon yn Nghymru wrth gwrs.

Mae'r gân Ira Hayes yn cyfeirio at y brodor a frwydrodd yn Korea ar ran yr Unol Daleithiau, cafodd fedal am ymladd gyda dewrder ond yna ei anghofio fel sy'n digwydd i cymaint o Gymry sydd wedi ymuno a'r fyddin Prydeinig, gan nad oes gwaith nac unrhyw obaith o hynny iddynt yn Nghymru, i ymladd yn ddewr mewn gwledydd pell, heb unrhyw gymorth i gael cartref nac unrhyw waith wedi iddyn nhw gyrraedd adref ac mae llawer ohonynt yn dioddef yn seicolegol am weddill eu bywydau fel 0l-effaith o'r brwydro. brwydro

Mae'r caneuon, pob un ohonynt, yn wych ac yn bwerus ac mae yna debygrwydd i'r hyn sydd wedi ac sydd yn digwydd yng Nghymru ddoe a heddiw. Y gwahaniaeth yw bod y creulondeb ddibendraw tuag at y brodorion yn yr Americ yn llawer mwy amrwd ac yr un mo'r ffiaidd hyd heddiw a does gan y brodorion ddim dewis ond i frwydro'n ôl mewn pa bynnag fodd sy'n bosibl iddyn nhw os nad ydynt i'w dileu yn gyfangwbl. 

Mae'r Drefn Prydeinig yn llawer mwy cyfrwys pan mae'n dod i Gymry, maent yn 'hen law' ar y gallu i 'rhwygo i 'rheoli' ac i lenwi pocedi a chyfoethogi a 'gwobrwyo' un carfan elitaidd o'r boblogaeth i allu rheoli'r gweddill ac, mae hyn yn gweithio! Sefyllfa trist dros ben sy'n mynd i gael yr un effaith yn union a dinistr y brodorion yn yr Americ yn y pendraw.

Hoffwn awgrymu bod pob gwladgarwr a gwladgarwreig yn prynu ac yn gwrando ar bob un can ar yr albwm yma, yn sicr bydd yn fodd o ysbrydoli i 'YMLADD YN ÔL yn hytrach na derbyn' yn ddall y neges sydd yn y gan nawddoglyd 'a ein bod ni "yma o hyd" os gwnawn fodoli ar hynny, fydda ni ddim ac mae hynna'n sicrwydd! 

English translation below:

I admit, I am not the greatest fan of Johnny Cash's music - apart from the biggest hits such as 'Boy named Sue' and 'Folsom Prison Blues' but I really do like this collection of songs which are dedicated to some of the struggles of the indigenous peoples of lands now known as America. 

Today, like us Cymry, they are fighting to hang on to their identity, what little land they have been allowed, through treaties - which are constantly broken, their resources, history and language so, being patriotic Cymry, we can identify with the struggles revealed in these songs.

My favourite song on the album is 'Drums' which reveals the cruelty of 'taking' children off their parents to place in 'white men's schools thousands of miles away to try and make them 'white'! Gethin's favourite song is 'As long as the grass shall grow' that refers to the drowning of a valley despite protests and, of course, this has happened so many times in Cymry and will happen again.

Then there's a very sad song about the death of Ira Hayes, an American native who joined the Marines and fought in Korea, he recieved a medal for his bravery in battle but, then was forgotten by the 'whites' of America, to reach a state of hopelessness until he was found dead in a ditch.

Again, we can identify with the fate of Ira Hayes, where our own young men join the British Army as there are no jobs, or, hope of a future, for them in Cymry, and do not think for a moment that this is not deliberate British State policy, depriving young people of jobs will always provide them with plentiful 'cannon fodder' to fight their wars but, if they survive these wars and return to Cymry, they recieve no help, find themselves back on the 'scrap heap' without work and even homeless and on the street in many cases and many are traumatised with the scars of war and can so easily end up like Ira Hayes.

Each and everyone of the songs are powerful and we in Cymru can relate to each of the truggles portrayed in them. The difference being that the catalouge of catastrophic cruelty carried out by whites' against the indigenous natives of America is still being carried out to this day and the genocide will continue until they are deleted out of existance so, the native American has no choice but to fight back 'by whichever means possible' against the greatest power in the Western Hemisphere.

The British State, who have centuries of experience on how to 'colonize and rule' are using those experiences to keep the Cymry a downtrodden people. The use the old Imperialistic tactic of 'divide and rule' where they 'buy' an elite' class out by rewarding them with strong positions of power and 'bribery' to become traitors against their fellow country men and women. Such a tried and tested tactic and so easy to carry out in Cymru and, at the end of the day, will have the same result as the warfare carried out against the Indigenous American native and that is the genocide of the Cymric nation and its people. 

I strongly recommend that every Cymric patriot should buy and listen to the songs on this album, it will inspire to "fight back" rather than blindly accept that patronizing song that "we are still here" if we are fooled by that, it will be a case of...but not for long - and that's a certainty!.

Gellir cael mwy o fanylion am yr albwm yn y ddolen isod.

More info on the album and its conent in the link below.

https://en.wikipedia.org/wiki/Bitter_Tears:_Ballads_of_the_American_Indian



  

 

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home