Monday 27 March 2017

GOPA HILL TO MYNYDD Y GWAIR 2017 WHERE THE REAL WELSH RESISTANCE HAS ALREADY BEGAN - NOT TOO LATE TO JOIN US IN THE STRUGGLE FOR LAND AND LIBERTY - CAMPAIGNING AGAINST THE COLONIALISM OF OLD CONQUISTADORS AND THE RWE CAPITALIST EXPROPRIATORS AND EXPLOITERS OF OUT COMMUNITIES AND COUNTRY - PATRIOTS BE PARTISANS AND FIGHT BACK - I'R GAD! DAL DY DIR!




 






 
CAN YOU MAKE IT FOR>




9 JULY 2017
REBECCA RESISTANCE RALLY AT BOLGOED MEMORIAL.










SIAN.

PARTNER BLOG.













Saturday 25 March 2017

CYMRYD YR AWENAU'N OL I'N DWYLO EIN HUNAIN.


 
Llythyr i wythnosolyn ‘Y Cymro’

Tybed allai awgrymu yn garedig fod ein gwleidyddion yma yng Nghymru, yn ogystal ag unrhyw un arall sy’n parhau i frefu a cholli dagrau dros benderfyniad democrataidd y mwyafrif o Gymru i adael yr Ymerodraeth Ewropeaidd yn cymryd seibiant o’u brefu am hanner awr i wylio rhaglen arbennig o ysbrydoledig o’r enw ‘Back to the Land with Kate Humble’ a ymddangosodd ar BBC Cymru am 8 o’r gloch yn yr hwyr ar Fawrth y 7fed. Rhaglen oedd hon oedd yn dilyn ac yn ymddangos sut mae chwech o ffermydd yn Sir Benfro wedi bod a’r hyder i arallgyfeirio i fod yn fusnesau llewyrchus - a hynny wedi i 70% o ffermydd llaeth Cymru fynd i’r wal ers i ni fod yn yr E.U! Dangoswyd yn ogystal sut bu i gwmni arall sylweddoli’r potential o gynhyrchu bara lawr a bwydydd gwahanol yn seiliedig ar y bara lawr a sut mae’r cwmni yn llwyddo i wneud bywoliaeth drwy werthu yma yng Nghymru yn unig. Llwyddiant ysgubol arall yn seiliedig ar hyder a ffrwyth dychymyg. Mae fy meibion fy hunan wedi bod yn rhedeg busnesau llewyrchus ers iddynt fod yn eu harddegau, a hynny heb hyd yn oed ystyried cardota ar bwrs unrhyw wlad, ac mae pob un o’r busnesau yn yr enghreifftiau uchod yn cyflogi gweithwyr yn eu cymunedau (ar wahân i un o fy meibion sydd ond yn gallu cyflogi ei hunan ar hyn o bryd) ac mae yna ddigon o enghreifftiau tebyg yng Nghymru’n barod.
 
Dyma’r math o mentusrwydd hyderus sydd ei angen, ac er gwaethaf y ffaith fod cyfran helaeth o’n gwlad eisoes wedi ei ddwyn gan goron Lloegr ers canrifoedd ac wedi - ac yn parhau i gael ei ecsploetio gan gyfalafwyr estron o dan ein trwynau, mae gennym wlad sydd ymysg yr hyfrytaf o wledydd yn ddi-os ac un sy’n gyfoethog o ran potensial cynhyrchiol oni petaem fel cenedl a’r hyder i fanteisio ar y potensial hynny a mentro heb y bryderu a meddwl nag oes modd llwyddo heb gardod o bwrs ein gormeswr neu o bwrs yr U.E  Cofier, does ‘dim’ i’w gael am ‘ddim’ yn y pendraw.
 
Petai gennym hunan lywodraeth a Senedd ‘go iawn’ gyda gwleidyddion ‘go iawn sy’n gweld yn glir ac yn gallu deall potential cynhyrchiol ein cenedl - yn cynnwys, tir a môr yn ogystal ag elfennau naturiol, byddai ddim angen o gwbl edrych ar Lundain neu Brwsel am gardod, byddai gwleidyddion ‘go iawn’ mewn Senedd annibynnol ‘go iawn’ a’r gallu i gynorthwyo busnesau bychan a mentrau cydweithredol dros Gymru benbaladr i lwyddo a ffynnu; byddai hyn yn fodd o ddatrys diweithdra, yn ogystal â llu o broblemau cymdeithasol eraill, yn ogystal â bod yn gymorth o ddifrif i alluogi Cymry i weithio a byw yma yn eu gwlad eu hunain mewn tai sy’n cael eu hadeiladu neu eu hadnewyddu mewn cymunedau Cymreig gan adeiladwyr a gweithwyr Cymreig.
 
Mae’n anonest ac yn wirion bost i honni, ar yr un llaw, i fod yn ‘genedlaetholwr pupur’ sydd o ddifrif am adennill Annibyniaeth a Sofraniaeth ein cenedl dra, ar y llaw arall, yn galaru am dorri’r llinyn bogeiliol ag Ymerodraethau estronol. Tydi bod yn aelod o Ymerodraeth Ewrop ddim tamaid gwell no bod yn aelod o Ymerodraeth Prydain, gormesol yw'r ddwy Ymerodraeth ond bod un yn bellach i ffwrdd na’r llall.
 
Dwi wedi dod i’r canlyniad fod yna elfen o ‘Syndrom Stockholm’ yn perthyn i’r Cymry hynny sy’n brefu am i ni fod yn gadael yr E.U. h.y., y diffyg hyder a ffydd hynny yn ein gallu i sefyll ar ein traed ein hunain fel cenedl, ac oherwydd, ddim am adael yr hyn rydym yn gyfarwydd ag. Petaem i gyd yn meddwl hynny, byddai’n amser i ni roi’r ffidil yn y tô a bodloni ar fod yn ddinasyddion eilradd sydd yn mynd yn dlotach o flwyddyn i flwyddyn nes bod dim o’r Gymru rydym yn ei adnabod a thrysori ar ôl! Ond, diolch byth, mae’r mwyafrif o Gymry wedi mynegi nad ydynt yn barod i fodloni ar hynny - ac maent yn haeddu gwell!
 
Dwi’n ffyddiog bod modd i ni lwyddo fel cenedl ond dim ond os wnawn gymryd yr awenau’n ôl i’n dwylo ein hunain. Os ydym am ad- ennill Annibyniaeth a sofraniaeth ein cenedl, yna mae’n rhaid i ni wneud llawer mwy na ‘malu awyr’ a, fel man cychwyn, brwydro o ddifrif i ennill ein tir yn ôl. Byddai’n llawer gwell petai ein gwleidyddion yn canolbwyntio eu hamser a’u hegni yn arwain y frwydr hynny i ennill ein tir yn ôl ynghyd a chynorthwyo ein cenedl a’i phobol i ddod yn hunangynhaliol  yn hytrach na gwastraffu eu hamser nhw a ni yn cecru yn waeth na phlant bach mewn ysgol meithrin byth a beunydd. Dim i’r pwrpas hynny etholwyd nhw a dim i’r pwrpas hynny maent yn cael cyflogau afresymol o hael o bwrs y wlad.  Does fawr rhyfedd fod y boblogaeth wedi cael mwy na llond bol ac wedi colli ffydd mewn gwleidyddion a gwleidyddiaeth!
 
Mae gwir angen meithrin hyder yn ein cenedl i fod yn genedl hunangynhaliol, ac mae’r enghreifftiau a rhoddwyd ar gychwyn y llythyr yma yn ysbrydoliaeth ac yn tystiolaethu bod hynny’n fwy na phosibl ond i’n gwleidyddion roi blaenoriaeth a chanolbwyntio eu sylw ar sicrhau gwell bywyd i ‘phob un’ o ddinasyddion Cymru yn hytrach na chanolbwyntio eu hegni ar y lleiafrif sydd wedi bod yn or-ddibynnol ar ‘grantiau’ o Ewrop ar hyd y blynyddoedd cyn ystyried codi bys i gychwyn menter ar eu liwt eu hunain. Briwsion yn unig oedd y cardod hynny beth bynnag mewn cymhariaeth i’r cyfoeth ariannol mae ein cenedl wedi ei golli trwy golli’r hawl a’r cyfleoedd i fod yn hunangynhaliol. 
 
I ddiweddu ar nodyn addawol, pleser o’r mwyaf oedd gweld cymaint o faneri Glyndŵr yn chwifio ar hyd a lled y wlad ar Ddydd Gŵyl Dewi eleni. Mewn gwahanol eitemau a ymddangosodd ar y teledu gwelais y mwyafrif o rain wrth gwrs, mae’n amhosibl i hyd yn oed fi fod ym mhob rhan o Gymru ar yr un pryd, nid Owain Glyndŵr mohonof ond, fe wnes i weld ymdrech Abertawe a fy llygaid fy hunan a, chwarae teg, roedd Cyngor Tref Abertawe wedi codi baner Glyndŵr enfawr ar y sgwâr ger y castell drwy gydol yr wythnos ac, ymhellach wedi gosod dwy o rai eraill ar gefn y llwyfan lle'r oedd y perfformwyr yn perfformio. Yn ogystal, gwelais sawl baner yn cael eu chwifio ar bolion a rhai eraill yn cael eu gwisgo gan unigolion yn y dorf. Dwi wedi gweld rhai yn nwylo neu yn cael eu gwisgo gan gefnogwyr Rygbi yn ystod  Cystadlaethau’r chwe gwlad yn ogystal. Da iawn wir dref a phoblogaeth Abertawe a Chymru benbaladr am ddangos fod dyhead Glyndŵr am sofraniaeth yn fyw o hyd. Mae’n gwneud llawer mwy o synnwyr i ni fel Cymry sydd am fyw mewn cenedl Annibynnol hunangynhaliol i chwifio baner Glyndŵr, sef y faner sy’n sefyll dros ein Sofraniaeth fel cenedl anrhydeddus a hyderus nag i chwifio baneri Ymerodraethol Prydain a’r Undeb Ewropeaidd gwallgof.
 
Os oes rhywun am gael baner Glyndŵr enfawr 5 X 8 troedfedd. Mae gen i nifer cyfyngedig am £12 yr un yn ogystal â chost cludiant o £2. Cysylltwch â fi ar e-bost sifl@hotmail.co.uk <mailto:sifl@hotmail.co.uk> i fynegi diddordeb.
 
Yn gywir.
 
Siân Ifan
 
Llysgenhadaeth Glyndŵr