Peidiwch dda chi pobl Cymry a phleidleisio i aros yn rhan o ‘Senedd yr Absẃrd''
Peidiwch dda chi pobl Cymry a phleidleisio i aros yn rhan o ‘Senedd yr Absẃrd''
Gyda llai nac wythnos i fynd hyd nes
y byddwn fel cenedl yn pleidleisio dros un ai aros yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd
neu ddim, rwy'n wir obeithio y bydd pobl ein cenedl wedi ystyried o ddifrif
beth fyddai'r sgil effeithiau hir parhaol ar Gymru a’i phobl petaem yn
pleidleisio i aros i mewn yn y 'Senedd yr Absẃrd' costus yma sy'n cael ei
rhedeg, o ryw ffasiwn, gan gannoedd o fiwrocratiaid diwyneb a phwyllgorau di-ri
sydd a'r fraint o bleidleisio ar benderfyniadau mor bwysig â pha fath o haearn
smwddio sy'n dderbyniol i'w farchnata o fewn i'r Undeb Ewropeaidd!
Os edrychir ar y gost o ariannu'r
Senedd ym Mrwsel o ran yr holl adeiladau a gwahanol adrannau, yr Aelodau
Seneddol, y miloedd o fiwrocratiaid,
gweithwyr sifil a chyfreithiwr, ynghyd a'r gost flynyddol o £100miliwn i
drosglwyddo'r Aelodau Seneddol, y gweithwyr a'r mynyddoedd o waith papur i
Stratsburg bob mis, lle gwneir y penderfyniadau terfynol ar bopeth, oni
fyddai'n fwy buddiol i boblogaeth Prydain petai'r £350 miliwn yr wythnos sy'n
cael ei dalu o San Steffan i fod yn rhan o'r ffwlbri yma yn cael ei ddefnyddio
ym Mhrydain i godi ysbytai newydd a fyddai'n hyfforddi a lletya nyrsys ‘yn y
gwaith’ fel ag yr oedd yn digwydd ar hyd a lled y wlad cyn i Brydain ddod yn
aelod o ‘Senedd yr Absẃrd’.
Does ddim gwadu fod yna brosiectau
yng Nghymru wedi derbyn budd-daliadau o'r Senedd i gychwyn mentrau a bod rhai
o'r mentrau yma wedi llwyddo i oroesi -
er yr holl reolau biwrocrataidd sy'n glwm â'r budd-daliadau ond, mae
nifer helaeth wedi mynd i'r wal yn ogystal ag wrth deithio ac edrych o gwmpas
fy mamwlad, allai ddim yn fy myw gweld unrhyw arwydd o wellhad parthed safon
byw y mwyafrif o fy nghyd Gymry, os rhywbeth, gwaethygu mae eu tlodi gan nad
oes ganddyn nhw fawr o siawns o waith mewn diwydiannau sy'n cael eu cau i lawr
un ar ôl y llall ers degawdau bellach.
Does ond angen edrych ar sut
effaith mae bod yn aelod o ‘Senedd yr
Absẃrd’, hyd yma, wedi ei gael ar ein diwydiant pysgota morwrol gyda'u rheolau
gorthrymus ac 'absẃrd' lle ond caniateir i bysgotwyr Cymru bysgota o fewn lled
'hyn a hyn' o filltiroedd o'r lan ac ond am ychydig o oriau'r dydd ac oherwydd,
mae'r pysgotwyr, rhai dyddiau, yn gorfod dychwelyd i'r porthladd heb ddal digon
o bysgod i dalu costau'r dydd tra maent yn gwylio cychod o Ffrainc a Sbaen a
gweledydd eraill o fewn yr Undeb yn parhau i bysgota. Y canlyniad yw bod y drefn yma wedi achosi i
lawer o bysgotwyr môr Cymru roi'r ffidil yn y to.
Tybed faint o Gymry sy'n ymwybodol
fod yr Undeb Ewropeaidd yn gyrru cychod pysgota môr i lannau'r Affrig i
ysbeilio cyflenwadau pysgod y llwythau brodorol; mae'n anodd gen i gredu y
byddai fy nghyd Gymry am fod yn rhan o'r ysbeilio llechwraidd yma sy'n rhan o
strategaeth yr Undeb.
A beth am ein diwydiant amaethyddol
lle mae ein fferiwyr brodorol yn cael eu hatal gan reolau 'absẃrd' ‘Senedd yr
Absẃrd’ rhag ffermio yn y modd traddodiadol sydd wedi bod yn ffordd o fyw iddyn
nhw a'u cyndeidiau ers canrifoedd o flynyddoedd, ag oherwydd ac er mwyn cael y
maen i'r wal, mae'r ffermwyr llai yn cael eu gorfodi i arallgyfeirio drwy godi
ffermydd gwynt a solar ar eu tir tra bod y tirfeddianwyr mwyaf yn cael budd-daliadau enfawr i beidio â
ffermio? Arian poced reit neis i'w sbydu ar geir cyflym, cychod hwylio drudfawr
ac ar adeiladu meysydd glanio ar gyfer eu hawyrennau preifat.
Gwyddys pawb sydd â llygaid yn eu
pennau a’u bysedd ar y pwls am y problemau enbyd sydd wedi amlygu eu hunain gyda'r
miloedd o ffoaduriaid sy'n glanio o bob cyfeiriad ar lannau traethau Ewrop ar
hyn o bryd, a lle y byddwn yn cytuno fod yna rheidrwydd moesol arnom fel cenedl
i lochesu ein cwota ni o'r teuluoedd o Syria sy'n dianc er mwyn osgoi
creulondeb ffiaidd Daesh, allai ddim
cytuno gydag agor y ffiniau i bob creadur o dan haul - y mwyafrif ohonynt au
bryd ar gael eu cartrefu ym Mhrydain lle ellir cael gwasanaeth iechyd a
budd-daliadau yn rhwydd a thŷ cyngor o fewn chwinciad tra bod y brodorion, mewn
rhai achlysuron, yn gorfod aros gyda'u rhieni am flynyddoedd neu fyw mewn gwely
a brecwast am fisoedd cyn cael eu cartrefu.
Fel canlyniad i ddirywiad ein
diwydiannau trwm, a gellir diolch i
Lywodraethau Lloegr ac Ewrop am hynny,
mae gan Gymru brofiad hir o allfudo yn ogystal â phrofiad hir o
fewnfudo. Ar y cychwyn, mewnfudo o Loegr oedd y broblem yn bennaf wrth i'r
Saeson brynu'r tai gwag a ellid eu prynu yn ddigon rhad i allu gwneud defnydd
ohonynt fel tai haf, ond ers i Brydain ddod yn aelod o 'Senedd yr Absẃrd',
mae'r mewnfudo i Loegr - ac i Gymru wedi cynyddu'n, raddol, dros y blynyddoedd
gyda phentrefi fel Llanybydder yng Ngheredigion a threfi fel Wrecsam yng
Nghlwyd yn cael eu coloneiddio gan fewnfudwyr o amrywiaeth o wledydd Ewrop ac
yn ddiamau, mae'r mewnlif newydd yma o
bob cyfeiriad I Gymru yn sicr o fod ar waith yn barod yn tanseilio cyfansoddiad
y cymuned au yma fel cymuned au Cymreig
Mae Cameron eisoes wedi cytuno i
dderbyn 20,000 o deuluoedd o'r gwersylloedd dros y pum mlynedd nesaf a does gen
i, yn bersonol, ddim gwrthwynebiad i gynghorau Cymru ddosbarthu 8% o'r
teuluoedd yma ar hyd a lled Cymru ond, rwyf yn pryderu am y miloedd sy'n
llifo'n anghyfreithlon i Loegr, ac i Gymru'n, flynyddol ac am y ffaith fod yna
gynlluniau ar y gweill gan ‘Senedd yr Absẃrd’ i dderbyn Twrci, Kosovo, Albania,
Romania, Bwlgaria, Bosnia Montenegro, Macedonia, Herzegovina yn y blynyddoedd
nesaf fel aelodau o’u hymerodraeth ar dwf
Mae gan unrhyw un sy'n ddinesydd o
wlad sy'n aelod o ‘Senedd yr Absẃrd’ yr hawl i deithio a gweithio mewn unrhyw
wlad arall sy'n rhan o'r ymerodraeth. Mae'r ffigyrau swyddogol yn dangos bod
1.7 miliwn o fewnfudwyr yn gweithio ym Mhrydain tra bod rhifau gweithwyr sy'n
Brydeinig o dras wedi disgyn i 223,000.
Rhwng 2006 a 2009, roedd yna dros 700,000 o weithwyr o Ddwyrain Ewrop
wedi cofrestru i weithio ym Mhrydain.
Gallaf ragweld yr effeithiau ar
Brydain wrth i'r Ymerodraeth Ewropeaidd
gofleidio mwy o wledydd fel y rhai a nodir uchod; bydd llawer mwy o gystadlu am waith a fydd yn cadw
cyflogau i lawr, llawer mwy o bwysau ar ein Gwasanaeth iechyd ac ysgolion a
fydd yn cynnwys mwy o wariant ar gyfieithwyr mewn llu o ieithoedd. Mwy o
droseddu a lle mae ein cenedl fach ni yn y cwestiwn, cawn brofi effeithiau'r
cyfan o'r uchod ynghyd a mewnlifiad fel na welwyd ers goresgyniad 1283 wrth i
fwy a mwy o Saeson rhuthro i lawr yr A5 a M4 o loegr i Gymru i chwilota am
loches oddi wrth y goresgyniad fyd eang fydd yn cymryd lle yn eu cenedl nhw.
Dyma fydd yr hoelen olaf yn arch Cymru, gellir ddim goroesi effeithiau'r
goresgyniad yma fydd yn sicr o ddigwydd os wnawn aros yn rhan o 'Senedd yr Absẃrd'.
Ffwlbri llwyr yw i Lywydd Plaid Cymru
son am ‘Annibyniaeth i Gymru o fewn i Ewrop’,
tydi ‘Senedd yr Absẃrd’ yn
pryderu affliw o ddim am Gymru a’i phobl a byddant yn pryderu llai na dim yn y
dyfodol wrth iddynt ystyried iddi fod yn fwy angenrheidiol i ariannu gwledydd
fel Rwmania, Bosnia Serbia ac Albania fel rhan o’u strategaeth ar y cyd a Nato.
Fel ag y mae. Collasom ein Sofraniaeth Annibynnol fel cenedl gyda dirywiad
Rhyfel dros Annibyniaeth Tywysog Owain
Glyndŵr yn chwarter cyntaf y pymthegfed ganrif ac mae'n ddigon o gamp i geisio
ac ymgyrchu i geisio ac adennill y sofraniaeth yna'n ôl o grafangau Lloegr heb
inni orfod pryderu am ymgyrchu i adennill ein sofraniaeth o grafangau
cyfundrefn imperialaidd orthrymus sydd hyd yn oed yn bellach i ffwrdd ac sydd
yn llai cyfarwydd â Chymru ai phobl nac y mae Lloegr!
Yr unig obaith sydd gennym i oroesi
fel cenedl yw drwy ymbellhau oddi wrth ymerodraeth ‘Senedd yr Absẃrd’ yn Brussels a chodi oddi ar
ein pengliniau yma yng Nghymru i fynnu ein sofraniaeth a hunan-barch yn ôl fel
cenedl cyn iddi fynd yn rhy hwyr. Cyfeiriodd Jonathan Edwards, Aelod Seneddol
Plaid Cymru dros Ddwyrain Dinefwr a Chaerfyrddin yn ddiweddar, at yr Aelod
Cynulliad Adam Price fel Ý Mab Darogan newydd. Os yw hynny’n wir, yna, oni
ddylai swyddogaeth gyntaf Adam fel Mab Darogan fod yn un i arwain y frwydr i
ennill ein Sofraniaeth a hunan-barch yn
ôl fel cenedl oddi wrth Senedd Lloegr ac, yn ail, i ymgyrchu i adennill tir, ac
adnoddau fel dŵr, sydd wedi ei ddwyn ar hyd y canrifoedd gan amrywiaeth o
frenhinoedd, barwniaid a llywodraethau Seisnig. Dyma'r camau cyntaf tuag at
sicrhau fod gan Gymru unrhyw siawns o fod yn llwyr annibynnol gyda rheolaeth
lwyr ar ein holl adnoddau er budd y genedl Gymreig a’i phoblogaeth ym mhob
meysydd o’u bywydau.
Siân Ifan.
Prif Weithredwr Llysgenhadaeth
Glyndŵr