Monday 20 June 2016

Peidiwch dda chi pobl Cymry a phleidleisio i aros yn rhan o ‘Senedd yr Absẃrd''


Peidiwch dda chi pobl Cymry a phleidleisio i aros yn rhan o ‘Senedd yr Absẃrd''
 

Gyda llai nac wythnos i fynd hyd nes y byddwn fel cenedl yn pleidleisio dros un ai aros yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd neu ddim, rwy'n wir obeithio y bydd pobl ein cenedl wedi ystyried o ddifrif beth fyddai'r sgil effeithiau hir parhaol ar Gymru a’i phobl petaem yn pleidleisio i aros i mewn yn y 'Senedd yr Absẃrd' costus yma sy'n cael ei rhedeg, o ryw ffasiwn, gan gannoedd o fiwrocratiaid diwyneb a phwyllgorau di-ri sydd a'r fraint o bleidleisio ar benderfyniadau mor bwysig â pha fath o haearn smwddio sy'n dderbyniol i'w farchnata o fewn i'r Undeb Ewropeaidd!

 

Os edrychir ar y gost o ariannu'r Senedd ym Mrwsel o ran yr holl adeiladau a gwahanol adrannau, yr Aelodau Seneddol, y miloedd o fiwrocratiaid,  gweithwyr sifil a chyfreithiwr, ynghyd a'r gost flynyddol o £100miliwn i drosglwyddo'r Aelodau Seneddol, y gweithwyr a'r mynyddoedd o waith papur i Stratsburg bob mis, lle gwneir y penderfyniadau terfynol ar bopeth, oni fyddai'n fwy buddiol i boblogaeth Prydain petai'r £350 miliwn yr wythnos sy'n cael ei dalu o San Steffan i fod yn rhan o'r ffwlbri yma yn cael ei ddefnyddio ym Mhrydain i godi ysbytai newydd a fyddai'n hyfforddi a lletya nyrsys ‘yn y gwaith’ fel ag yr oedd yn digwydd ar hyd a lled y wlad cyn i Brydain ddod yn aelod o ‘Senedd yr Absẃrd’.

 

Does ddim gwadu fod yna brosiectau yng Nghymru wedi derbyn budd-daliadau o'r Senedd i gychwyn mentrau a bod rhai o'r mentrau yma wedi llwyddo i oroesi -  er yr holl reolau biwrocrataidd sy'n glwm â'r budd-daliadau ond, mae nifer helaeth wedi mynd i'r wal yn ogystal ag wrth deithio ac edrych o gwmpas fy mamwlad, allai ddim yn fy myw gweld unrhyw arwydd o wellhad parthed safon byw y mwyafrif o fy nghyd Gymry, os rhywbeth, gwaethygu mae eu tlodi gan nad oes ganddyn nhw fawr o siawns o waith mewn diwydiannau sy'n cael eu cau i lawr un ar ôl y llall ers degawdau bellach.

 

Does ond angen edrych ar sut effaith  mae bod yn aelod o ‘Senedd yr Absẃrd’, hyd yma, wedi ei gael ar ein diwydiant pysgota morwrol gyda'u rheolau gorthrymus ac 'absẃrd' lle ond caniateir i bysgotwyr Cymru bysgota o fewn lled 'hyn a hyn' o filltiroedd o'r lan ac ond am ychydig o oriau'r dydd ac oherwydd, mae'r pysgotwyr, rhai dyddiau, yn gorfod dychwelyd i'r porthladd heb ddal digon o bysgod i dalu costau'r dydd tra maent yn gwylio cychod o Ffrainc a Sbaen a gweledydd eraill o fewn yr Undeb yn parhau i bysgota.  Y canlyniad yw bod y drefn yma wedi achosi i lawer o bysgotwyr môr Cymru roi'r ffidil yn y to.

 

Tybed faint o Gymry sy'n ymwybodol fod yr Undeb Ewropeaidd yn gyrru cychod pysgota môr i lannau'r Affrig i ysbeilio cyflenwadau pysgod y llwythau brodorol; mae'n anodd gen i gredu y byddai fy nghyd Gymry am fod yn rhan o'r ysbeilio llechwraidd yma sy'n rhan o strategaeth yr Undeb.

 

A beth am ein diwydiant amaethyddol lle mae ein fferiwyr brodorol yn cael eu hatal gan reolau 'absẃrd' ‘Senedd yr Absẃrd’ rhag ffermio yn y modd traddodiadol sydd wedi bod yn ffordd o fyw iddyn nhw a'u cyndeidiau ers canrifoedd o flynyddoedd, ag oherwydd ac er mwyn cael y maen i'r wal, mae'r ffermwyr llai yn cael eu gorfodi i arallgyfeirio drwy godi ffermydd gwynt a solar ar eu tir tra bod y tirfeddianwyr  mwyaf yn cael budd-daliadau enfawr i beidio â ffermio? Arian poced reit neis i'w sbydu ar geir cyflym, cychod hwylio drudfawr ac ar adeiladu meysydd glanio ar gyfer eu hawyrennau preifat.

 

Gwyddys pawb sydd â llygaid yn eu pennau a’u bysedd ar y pwls am y problemau enbyd sydd wedi amlygu eu hunain gyda'r miloedd o ffoaduriaid sy'n glanio o bob cyfeiriad ar lannau traethau Ewrop ar hyn o bryd, a lle y byddwn yn cytuno fod yna rheidrwydd moesol arnom fel cenedl i lochesu ein cwota ni o'r teuluoedd o Syria sy'n dianc er mwyn osgoi creulondeb ffiaidd Daesh,  allai ddim cytuno gydag agor y ffiniau i bob creadur o dan haul - y mwyafrif ohonynt au bryd ar gael eu cartrefu ym Mhrydain lle ellir cael gwasanaeth iechyd a budd-daliadau yn rhwydd a thŷ cyngor o fewn chwinciad tra bod y brodorion, mewn rhai achlysuron, yn gorfod aros gyda'u rhieni am flynyddoedd neu fyw mewn gwely a brecwast am fisoedd cyn cael eu cartrefu. 

 

Fel canlyniad i ddirywiad ein diwydiannau trwm,  a gellir diolch i Lywodraethau Lloegr ac Ewrop am hynny,  mae gan Gymru brofiad hir o allfudo yn ogystal â phrofiad hir o fewnfudo. Ar y cychwyn, mewnfudo o Loegr oedd y broblem yn bennaf wrth i'r Saeson brynu'r tai gwag a ellid eu prynu yn ddigon rhad i allu gwneud defnydd ohonynt fel tai haf, ond ers i Brydain ddod yn aelod o 'Senedd yr Absẃrd', mae'r mewnfudo i Loegr - ac i Gymru wedi cynyddu'n, raddol, dros y blynyddoedd gyda phentrefi fel Llanybydder yng Ngheredigion a threfi fel Wrecsam yng Nghlwyd yn cael eu coloneiddio gan fewnfudwyr o amrywiaeth o wledydd Ewrop ac yn ddiamau,  mae'r mewnlif newydd yma o bob cyfeiriad I Gymru yn sicr o fod ar waith yn barod yn tanseilio cyfansoddiad y cymunedau yma fel cymunedau Cymreig

 

Mae Cameron eisoes wedi cytuno i dderbyn 20,000 o deuluoedd o'r gwersylloedd dros y pum mlynedd nesaf a does gen i, yn bersonol, ddim gwrthwynebiad i gynghorau Cymru ddosbarthu 8% o'r teuluoedd yma ar hyd a lled Cymru ond, rwyf yn pryderu am y miloedd sy'n llifo'n anghyfreithlon i Loegr, ac i Gymru'n, flynyddol ac am y ffaith fod yna gynlluniau ar y gweill gan ‘Senedd yr Absẃrd’ i dderbyn Twrci, Kosovo, Albania, Romania, Bwlgaria, Bosnia Montenegro, Macedonia, Herzegovina yn y blynyddoedd nesaf fel aelodau o’u hymerodraeth ar dwf

 

Mae gan unrhyw un sy'n ddinesydd o wlad sy'n aelod o ‘Senedd yr Absẃrd’ yr hawl i deithio a gweithio mewn unrhyw wlad arall sy'n rhan o'r ymerodraeth. Mae'r ffigyrau swyddogol yn dangos bod 1.7 miliwn o fewnfudwyr yn gweithio ym Mhrydain tra bod rhifau gweithwyr sy'n Brydeinig o dras wedi disgyn i 223,000.  Rhwng 2006 a 2009, roedd yna dros 700,000 o weithwyr o Ddwyrain Ewrop wedi cofrestru i weithio ym Mhrydain.

 

Gallaf ragweld yr effeithiau ar Brydain wrth i'r  Ymerodraeth Ewropeaidd gofleidio mwy o wledydd fel y rhai a nodir uchod; bydd  llawer mwy o gystadlu am waith a fydd yn cadw cyflogau i lawr, llawer mwy o bwysau ar ein Gwasanaeth iechyd ac ysgolion a fydd yn cynnwys mwy o wariant ar gyfieithwyr mewn llu o ieithoedd. Mwy o droseddu a lle mae ein cenedl fach ni yn y cwestiwn, cawn brofi effeithiau'r cyfan o'r uchod ynghyd a mewnlifiad fel na welwyd ers goresgyniad 1283 wrth i fwy a mwy o Saeson rhuthro i lawr yr A5 a M4 o loegr i Gymru i chwilota am loches oddi wrth y goresgyniad fyd eang fydd yn cymryd lle yn eu cenedl nhw. Dyma fydd yr hoelen olaf yn arch Cymru, gellir ddim goroesi effeithiau'r goresgyniad yma fydd yn sicr o ddigwydd os wnawn aros yn rhan o 'Senedd yr Absẃrd'.

 

Ffwlbri llwyr yw i Lywydd Plaid Cymru son am ‘Annibyniaeth i Gymru o fewn i Ewrop’,  tydi  ‘Senedd yr Absẃrd’ yn pryderu affliw o ddim am Gymru a’i phobl a byddant yn pryderu llai na dim yn y dyfodol wrth iddynt ystyried iddi fod yn fwy angenrheidiol i ariannu gwledydd fel Rwmania, Bosnia Serbia ac Albania fel rhan o’u strategaeth ar y cyd a Nato. Fel ag y mae. Collasom ein Sofraniaeth Annibynnol fel cenedl gyda dirywiad Rhyfel dros Annibyniaeth Tywysog Owain Glyndŵr yn chwarter cyntaf y pymthegfed ganrif ac mae'n ddigon o gamp i geisio ac ymgyrchu i geisio ac adennill y sofraniaeth yna'n ôl o grafangau Lloegr heb inni orfod pryderu am ymgyrchu i adennill ein sofraniaeth o grafangau cyfundrefn imperialaidd orthrymus sydd hyd yn oed yn bellach i ffwrdd ac sydd yn llai cyfarwydd â Chymru ai phobl nac y mae Lloegr!

 

Yr unig obaith sydd gennym i oroesi fel cenedl yw drwy ymbellhau oddi wrth ymerodraeth ‘Senedd yr Absẃrd’ yn Brussels a chodi oddi ar ein pengliniau yma yng Nghymru i fynnu ein sofraniaeth a hunan-barch yn ôl fel cenedl cyn iddi fynd yn rhy hwyr. Cyfeiriodd Jonathan Edwards, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Ddwyrain Dinefwr a Chaerfyrddin yn ddiweddar, at yr Aelod Cynulliad Adam Price fel Ý Mab Darogan newydd. Os yw hynny’n wir, yna, oni ddylai swyddogaeth gyntaf Adam fel Mab Darogan fod yn un i arwain y frwydr i ennill ein Sofraniaeth a hunan-barch  yn ôl fel cenedl oddi wrth Senedd Lloegr ac, yn ail, i ymgyrchu i adennill tir, ac adnoddau fel dŵr, sydd wedi ei ddwyn ar hyd y canrifoedd gan amrywiaeth o frenhinoedd, barwniaid a llywodraethau Seisnig. Dyma'r camau cyntaf tuag at sicrhau fod gan Gymru unrhyw siawns o fod yn llwyr annibynnol gyda rheolaeth lwyr ar ein holl adnoddau er budd y genedl Gymreig a’i phoblogaeth ym mhob meysydd o’u bywydau.  

  

Siân Ifan.


Prif Weithredwr Llysgenhadaeth Glyndŵr