Mae'r post diwethaf ar y blog yma yn esbonio hanes ein 'wir' Groes Naid, y sawl a roddwyd i Edward I gan y bradwr Huw ap Ithel yn 1283, yn ogystal ac esbonio pam y dylem wrthod y 'trinced' o groes sydd nawr wedi ei 'anrhegu' i Gymru gan frenin newydd Lloegr felly, os nad ydych wedi yn barod, darllennwch y post diwethaf i gael y wybodaeth ac fe welwch pam oeddem yn galw am ymgyrch i wrthod y 'trinced' newydd ac i 'fynnu' bod Croes Naid Llywelyn - un o drysorau cenedlaethol mwyaf Cymru yn cael ei ddychwelyd i Gymru, a dyna pam, yn union, wnaethom benderfynu fod yna angen mynegi safiad ger ddrws Castell Caernarfon dydd Sadwrn diwethaf.
Penderfynwyd peidio a chyhoeddi'r bwriad i gynnal protest ger ddrws ffrynt y castell tan y diwrnod blaenorol, gan fod yna rheolau newydd 'anddemocrataidd' wedi ei gosod mewn lle ar gyfer y coroni, roedd 'na berygl y byddai'r heddlu wedi gwrthod i adael i ni ddod yn agos at y castell petaent wedi cael y wybodaeth mewn da bryd i drefnu. Penderfynwyd mai y cyfan oedd ei angen oedd grŵp bychan ymroddedig i wireddu'r nod, ac fe atebwyd yr alwad gyda grŵp o dua 30 o wladgarwyr ymroddedig iawn yn ymuno â ni wrth y drws, ynghŷd a pump o heddweision ac, i fod yn onest, roedd yr heddweision yn gyfeillgar iawn ac yn awyddus i gael eu dysgu parthed hanes LLywelyn a Dafydd a'r hyn a ddigwyddodd iddyn nhw a'u teuluoedd yn ogystal a hanes y Groes Naid.
Er mai dim ond criw bychan ymroddedig oedd yno, cafwyd protest lwyddannus du hwnt a lliwgar, gyda thrigolion Caernarfon ac ymwelwyr i'r castell yn holi ac yn cymeradwyo. Daeth Camerau BBC Cymru i ffilmio a chynnal cyfweliadau ynghŷd a bapur y Daily Post.
Mae'r uchod yn dangos sut mae grŵp bychan ymroddedig yn gallu bod yn effeithiol, du hwnt os gweithredir yn lle 'mae'n taro adref', ac yng nghyswllt y brotest yma, y castell, sumbol o awdurdod Lloegr yng Nghymru oedd y targed - ac roedd yn lwyddiant i'r raddau bod y BBC yn Llundain yn ystyried y brotest yn ddigon pwysig i roi sylw iddo ar eu newyddion Saesneg yn Lloegr!
Yna, yn Llundain, wrth ddrysau Tŵr Llundain a Buckingham Palace, cynhaliwyd protest symbolaidd 'un dyn' gan Eilian Williams, gwladgarwr ymroddedig iawn arall o Wynedd. Gweler y lluniau isod:
Felly, fel gellir weld, tydio ddim o rheidrwydd i gael cannoedd i wneud protest effeithiol bob amser, mae grwpiau bach ac unigolion 'ymroddedig' yn gallu bod yn fwy effeithiol ar adegau i ddanfon y neges adref.
A dyna yw'r allwedd i Annibyniaeth a petai pob unigolyn wir ymroddedig yn gweithredu ar ei liwt ei hunan neu, mewn celloedd bach fel modd i wneud Cymru yn rhy gostus i'w rheoli dan Lywodraeth Llundain, byddem yn nes at gyrraedd y nod o ad-ennill Annibyniaeth.
Mae gorymdeithio mewn cannoedd yn ddefnyddiol i dynnu sylw ond, faint o'r cannoedd neu filoedd sydd yn 'ymroddedig' o ddifrif parthed ad-ennill ein hanibyniaeth? Faint o'r gorymdeithwyr yma fyddai'n barod i ymroddi i weithredu'n uniongyrchol pan bod gofyn gwneud hynny?
Mae'n ddigon rhwydd i ymuno a phob grwp ar f.b a pwyso'r botwm "like" ac mae'n ddigon rhwydd i ymuno yn y gorymdeithiau mawr i ddangos mewn modd 'llugoer' eich bod yn cefnogi Annibyniaeth ac, wrth gwrs, mae'n gyfle gwych i gymdeithasu a mynychu gigs ac ati ond, tydi hynny i gyd yn 'dda i ddim' os nad ydych yn barod i 'weithredu'n uniongyrchol' mewn unrhyw fodd posibl pan cwyd yr angen i wneud hynny.
Engraifft o weithredu'n uniongyrchol oedd y brotest ger ddrws castell Caernarfon dydd Sadwrn diwethaf. Dim ond dydd o rybydd a roddwyd am resymau sydd wedi eu amlinellu'n barod ond, daeth tua 30 o wladgarwyr diffuant ac ymroddgar i'r baracêd. Os oedda nhw wedi gallu dod i'r fai, ymhle oedd y cannoedd eraill oedd wedi "pwyso" like ar f.b.? Diolch i drefn mod i'n gwybod o brofiad hir nac yw pwyso'r botwm "like" ar f.b yn golygu 'dim', byddwn i, a Gethin ap Gruffydd, wedi cynnal protest wrth ddrws y castell ar ein pen ein hunain petai wedi bod yn rheidrwydd, ond, daeth criw bach o wladgarwyr diffuant ac ymroddgar i'r fei a, gyda eu cymorth a chefnogaeth, cafwyd protest effeithol du hwnt.
Ond, wedi dweud hynny, o'r diwedd mae na arwydd bach bod yna 'rai' yn dechrau gweld yr angen i weithredu'n uniongyrchol, mae 'na fwy o sticeri yn cael eu glynu ar hyd a lled y wlad ond, prin iawn gwelir slogannau wedi eu paentio y dyddiau hyn. Ble mae'r gwlatgarwyr ifanc i wneud hyn? oes disgwyl i wladgarwyr mewn oed wneud y math yma o ymgyrchu drostynt drwy'r amser?
Dylid cofio, er gwaethaf y ffaith i ni gael ein cyflyru ar hyd y canrifoedd i dderbyn i ni fod wedi cael ein goresgyn ac er gwaethaf y ffaith bod Edward I wedi codi Castell Caernarfon ynghyd a'r cylch o gestyll eraill i'n atgoffa o hynny, tyda ni rioed wedi cael ein 'goresgyn' tra bod yna "ymladd yn ôl" cyson yn cymryd lle. Mae'n wir i'n gwlad gael ei 'feddiannu' ac mae'n wir bod brenhiniaeth Lloegr a'u barwniaid wedi dwyn ein trysorau cenedlaethol ac wedi dwyn miliynau o aceri o dir yn ogystal a rheibio ein hadnoddau, ond, hyd yma, tyda ni ddim wedi cael ein 'goresgyn'. Wnaiff hynny dim ond digwydd os wnewch ganiatau iddo ddigwydd.
Mae yna nifer cynyddol yn cysylltu i ddweud wrthym bod yna wir angen am fudiad newydd mwy radicalaidd yng Nghymru, a byddaf yn ymateb drwy ddweud ein bod ni, yn bersonol, yn rhy hên gyda gormod o broblemau iechyd i allu cychwyn mudiad radical newydd, dylai'r pobl ifanc wneud hyn ond, yn anffodus, ymddengys nad oes yna unrhyw berson ifanc egniol allan yna sydd a'r gallu a'r doethineb i gychwyn mudiad radical Cymreig newydd ac heb un, mae ein goroesiad fel cenedl yn y fantol - a dyna'r gwirionedd noeth.
ÔL NODYN I BROTEST DYDD SADWRN.
Pan oedd y brotest drosodd, penderfynodd pump ohonom i fynd i dafarn y ' PalaceVault' i gael glasiad sydyn a sgwrs byr cyn cychwyn am adre. Roedd yna o leiaf pedwar sgrin fawr yn y dafarn a phob un ohonynt yn 'bloeddio'r seremoni coroni allan ohonynt, doedd dim modd cael sgwrs. Aeth Terry Evans i'r bar i ofyn, yn gwrtais i'r rheolwr (siaradwr Cymraeg) byddai'n bosibl iddo ostwng y sain gan iddo fod yn fyddarol. Aeth y rheolwr yn ymosodol yn syth. Gofynnodd, yn swta iawn, pam oeddem eisiau i'r sain gael ei ostwng, Atebodd Terry "wel, mae'n "repulsive" Ymatebodd y rheolwr fel ci Rottweiler ar 'speed'! Dwedodd wrthym am adail ac ei fod yn ystyried ein protest ger y castell yn 'warthus'. Roeddwn wrth y bar yn archebu'r diodydd ac yn gwrando ar hyn a dwedais wrtho, iawn, os da chi'n teimlo fel'na, da ni ddim eisiau'r diodydd (roedd y merched ifanc wrthi yn eu paratoi) Rhuthrodd y reolwr o du ôl i'r bar, reit i fynu at fy ngwyneb a gweiddi arnaf i fynd o'i dafarn. Dwedais wrtho mai 'bradwr' oedd, cyn dweud wrth fy nghwmni ein bod yn gadael. Cododd y cwmni a bu i bob un alw'r rheolwr yn fradwr cyn gadael. Clywais yn ddiweddarach bod y rheolwr yma fod wedi dod allan o'r dafarn i wylio'r brotest.
FELLY, GALWAF AR BAWB I BOICOTIO TAFARN Y PALACE VAULT YNG NGHAERNARFON, PASIWCH Y NEGES YMA'N MLAEN. MAE DIGONEDD O DAFARNAU ERAILL YNG NGHAERNARFON I FYND IDDYN NHW, DOES DIM ANGEN GWARIO EICH ARIAN MEWN TAFARN SYDD A 'BRADWR' O BRIT FEL HYN YN RHEOLWR ARNI.