BETH MAE EICH PLAID CHI AM WNEUD YNGLŶN Â'R YMARFER 'GASYMPIO YNG NGHYMRU? CALL FOR ANTI GAZUMPING CYMRU CAMPAIGN ASAP!
SOLD - BUT TO WHOM?
GAZUMPED!
BETH MAE EICH PLAID CHI AM WNEUD YNGLŶN Â'R YMARFER 'GASYMPIO YNG NGHYMRU?
Cysylltodd cwpl ifanc Cymreig â fi pnawn ddoe ac roeddent mewn cyflwr
torcalonnus iawn! Maent wedi bod yn cynilo'n ofalus am flynyddoedd i wireddu
breuddwyd i brynu eiddo yng Nghymru i redeg busnes 'glampio' ynghyd a bwyty ac,
ar ôl chwilota'n drwyadl, cawsant hyd i'r eiddo perffaith i'w cynlluniau nhw a
gwnaed cynnig am yr eiddo yma. Derbyniwyd y cynnig, a'r cam nesaf oedd gwerthu
eu tŷ i ychwanegu at eu harian cynilo. Gwerthwyd y tŷ ac aed ati i ddyfeisio
cynllun busnes, llogi cyfreithiwr a thalu am wasanaeth arolygydd ac ati. Bu
iddynt wario dros £2,000 a dros ddau fis o'u hamser ar hyn i gyd a chychwynnwyd
hyd yn oed, i brynu adnoddau a chelfi ar gyfer y bwyty - gan fod y cwpl yn
credu y byddent wedi symud i'r eiddo ac yn cychwyn eu menter mewn tua chwe
wythnos. Ond, ddoe, bu i'r Asiant Tai oedd yn gyfrifol am werthiant yr eiddo
adael 'neges' iddyn nhw gyda'r newyddion eu bod wedi cael eu 'gasympio' gan
rywun o Loegr oedd am drawsnewid y bwyty i fod yn dŷ haf! Does gwybod beth yw'r
cynlluniau ar gyfer y tir, Stad o dai mae'n siŵr ar gyfer 'pobl dŵad
cyfoethog'!
Fel nodais yn gynharach, mae'r cwpl ifanc yma eisoes wedi gwerthu eu
tŷ, ac mae'n annhebyg y byddant yn cael hyd i safle addas arall i gychwyn eu
menter mewn pryd cyn i'r dyddiad ar gyfer trosglwyddo'r allweddi am y tŷ
gyrraedd, felly, mae'n debyg byddant yn ddigartref!
Mae'r Alban wedi gwahardd 'gasympio' yno ers blynyddoedd ac mae'n hen
bryd i wneud yn union yr un fath yng Nghymru neu, os na wneir, bydd ein pobl
ifanc 'mentrus' yn gadael am nad ydynt yn methu'n glir a chystadlu am eiddo a
thir yn erbyn 'pobl dŵad' - llawer ohonynt yn gyfalafwyr fyd eang sydd â
chyfalaf diddiwedd ar flaen eu bysedd i'w galluogi i brynu'r cyfan sydd ar ôl
yng Nghymru gyda'r unig nod o wneud elw enfawr - a bydd y broblem yn fwy
difrifol o hyn ymlaen nac y bu erioed o'r blaen gan fod y tollau ar Bont Hafren
wedi eu dileu!
Felly, beth mae eich Plaid chi am wneud am y sefyllfa dw hwnt o ddifrifol yma? Mae dyfodol ein tir a chymunedau, dyfodol ein Cymry mentrus a dyfodol ein diwylliant ac iaith yn y fantol felly, mae'r rhaid gweithredu i fynnu gwaharddiad ar ymarferion negyddol fel 'gasympio' yn syth rŵan! Ac mae'n debyg y bydd gofyn i'r gwahanol Bleidiau sy'n gweithredu dros Gymru ymuno'n un ymgyrch i gael y maen yma i'r wal.
WHAT'S PLAID CYMRU DOING ABOUT GAZUMPING?
A young Cymric couple contacted me yesterday in total despair ! They have saved hard to fulfill their dream of starting a 'glamping' and restaurant business in Cymru. Following a dedicated and hard search, they found the ideal property and land and put in an offer. The offer was accepted and they sold their house to meet the offer and have spent the last two monrths and over £2,000 of their hard earned savings on business plans and surveyors and solicitors as was necessary.. They have even been buying appliances for the restaurant and, as far as they were concerned, they would be starting their business in approximately six weeks time. They were messaged by the estate agent yesterday informing them that they had been gazumped by somebody from London whose intention was to turn the restaurant and house into a holiday home! The young couple's dream is shattered! The estate agent does not even have the courtesy to come to the phone to talk to them!
Scotland has sorted out this business of gazumping, it is just not allowed to happen there so, IT NEEDS TO BE SORTED OUT IN CYMRU OR, OUR YOUNG PEOPLE WILL NEVER BE ABLE TO COMPETE WITH OUTSIDERS, MANY OF THEM GLOBAL CAPITALISTS WHO HAVE UNLIMITED ACCESS TO CAPITAL TO BUY WHAT'S LEFT OF PROPERIES IN CYMRU - AND THIS IS DOUBLY SERIOUS NOW WITH THE SQUASHING OF TOLLS ON THE SEVERN BRIDGE! So, what is Plaid Cymru going to do about it?. Its a serious situation if we are to hang on to our young Cymric entrepreneurs, land and properties and if our language is to have any chance at all to survive! So, this may need all political parties to unite to pass a bill to stop gazumping in Cymru.
PATRIOTS FIGHT BACK!