Llythyr
i wythnosolyn ‘Y Cymro’
Tybed allai awgrymu yn garedig fod ein
gwleidyddion yma yng Nghymru, yn ogystal ag unrhyw un arall sy’n parhau i frefu
a cholli dagrau dros benderfyniad democrataidd y mwyafrif o Gymru i adael yr
Ymerodraeth Ewropeaidd yn cymryd seibiant o’u brefu am hanner awr i wylio
rhaglen arbennig o ysbrydoledig o’r enw ‘Back to the Land with Kate Humble’ a
ymddangosodd ar BBC Cymru am 8 o’r gloch yn yr hwyr ar Fawrth y 7fed. Rhaglen
oedd hon oedd yn dilyn ac yn ymddangos sut mae chwech o ffermydd yn Sir Benfro
wedi bod a’r hyder i arallgyfeirio i fod yn fusnesau llewyrchus - a hynny wedi
i 70% o ffermydd llaeth Cymru fynd i’r wal ers i ni fod yn yr E.U! Dangoswyd yn
ogystal sut bu i gwmni arall sylweddoli’r potential o gynhyrchu bara lawr a
bwydydd gwahanol yn seiliedig ar y bara lawr a sut mae’r cwmni yn llwyddo i
wneud bywoliaeth drwy werthu yma yng Nghymru yn unig. Llwyddiant ysgubol arall
yn seiliedig ar hyder a ffrwyth dychymyg. Mae fy meibion fy hunan wedi bod yn
rhedeg busnesau llewyrchus ers iddynt fod yn eu harddegau, a hynny heb hyd yn
oed ystyried cardota ar bwrs unrhyw wlad, ac mae pob un o’r busnesau yn yr
enghreifftiau uchod yn cyflogi gweithwyr yn eu cymunedau
(ar wahân i un o fy meibion sydd ond yn gallu cyflogi ei hunan ar hyn o bryd)
ac mae yna ddigon o enghreifftiau tebyg yng Nghymru’n barod.
Dyma’r math o mentusrwydd hyderus sydd ei angen,
ac er gwaethaf y ffaith fod cyfran helaeth o’n gwlad eisoes wedi ei ddwyn gan
goron Lloegr ers canrifoedd ac wedi - ac yn parhau i gael ei ecsploetio gan
gyfalafwyr estron o dan ein trwynau, mae gennym wlad sydd ymysg yr hyfrytaf o
wledydd yn ddi-os ac un sy’n gyfoethog o ran potensial cynhyrchiol oni petaem
fel cenedl a’r hyder i fanteisio ar y potensial hynny a mentro heb y bryderu a
meddwl nag oes modd llwyddo heb gardod o bwrs ein gormeswr neu o bwrs yr U.E Cofier, does ‘dim’ i’w gael am ‘ddim’ yn y
pendraw.
Petai gennym hunan lywodraeth a Senedd ‘go iawn’
gyda gwleidyddion ‘go iawn sy’n gweld yn glir ac yn gallu deall potential
cynhyrchiol ein cenedl - yn cynnwys, tir a môr yn ogystal ag elfennau naturiol,
byddai ddim angen o gwbl edrych ar Lundain neu Brwsel am gardod, byddai
gwleidyddion ‘go iawn’ mewn Senedd annibynnol ‘go iawn’ a’r gallu i gynorthwyo
busnesau bychan a mentrau cydweithredol dros Gymru benbaladr i lwyddo a ffynnu;
byddai hyn yn fodd o ddatrys diweithdra, yn ogystal â llu o broblemau
cymdeithasol eraill, yn ogystal â bod yn gymorth o ddifrif i alluogi Cymry i
weithio a byw yma yn eu gwlad eu hunain mewn tai sy’n cael eu hadeiladu neu eu
hadnewyddu mewn cymunedau Cymreig
gan adeiladwyr a gweithwyr Cymreig.
Mae’n anonest ac yn wirion bost i honni, ar yr un
llaw, i fod yn ‘genedlaetholwr pupur’ sydd o ddifrif am adennill Annibyniaeth a
Sofraniaeth ein cenedl dra, ar y llaw arall, yn galaru am dorri’r llinyn
bogeiliol ag Ymerodraethau estronol. Tydi bod yn aelod o Ymerodraeth Ewrop ddim
tamaid gwell no bod yn aelod o Ymerodraeth Prydain, gormesol yw'r ddwy
Ymerodraeth ond bod un yn bellach i ffwrdd na’r llall.
Dwi wedi dod i’r canlyniad fod yna elfen o
‘Syndrom Stockholm’ yn perthyn i’r Cymry hynny sy’n brefu am i ni fod yn gadael
yr E.U. h.y., y diffyg hyder a ffydd hynny yn ein gallu i sefyll ar ein traed
ein hunain fel cenedl, ac oherwydd, ddim am adael yr hyn rydym yn gyfarwydd ag.
Petaem i gyd yn meddwl hynny, byddai’n amser i ni roi’r ffidil yn y tô a
bodloni ar fod yn ddinasyddion eilradd sydd yn mynd yn dlotach o flwyddyn i
flwyddyn nes bod dim o’r Gymru rydym yn ei adnabod a thrysori ar ôl! Ond,
diolch byth, mae’r mwyafrif o Gymry wedi mynegi nad ydynt yn barod i fodloni ar
hynny - ac maent yn haeddu gwell!
Dwi’n ffyddiog bod modd i ni lwyddo fel cenedl
ond dim ond os wnawn gymryd yr awenau’n ôl i’n dwylo ein hunain. Os ydym am ad-
ennill Annibyniaeth a sofraniaeth ein cenedl, yna mae’n rhaid i ni wneud llawer
mwy na ‘malu awyr’ a, fel man cychwyn, brwydro o ddifrif i ennill ein tir yn
ôl. Byddai’n llawer gwell petai ein gwleidyddion yn canolbwyntio eu hamser a’u
hegni yn arwain y frwydr hynny i ennill ein tir yn ôl ynghyd a chynorthwyo ein
cenedl a’i phobol i ddod yn hunangynhaliol
yn hytrach na gwastraffu eu hamser nhw a ni yn cecru yn waeth na phlant
bach mewn ysgol meithrin byth a beunydd. Dim i’r pwrpas hynny etholwyd nhw a
dim i’r pwrpas hynny maent yn cael cyflogau afresymol o hael o bwrs y
wlad. Does fawr rhyfedd fod y boblogaeth
wedi cael mwy na llond bol ac wedi colli ffydd mewn gwleidyddion a
gwleidyddiaeth!
Mae gwir angen meithrin hyder yn ein cenedl i fod
yn genedl hunangynhaliol, ac mae’r enghreifftiau a rhoddwyd ar gychwyn y
llythyr yma yn ysbrydoliaeth ac yn tystiolaethu bod hynny’n fwy na phosibl ond
i’n gwleidyddion roi blaenoriaeth a chanolbwyntio eu sylw ar sicrhau gwell
bywyd i ‘phob un’ o ddinasyddion Cymru yn hytrach na chanolbwyntio eu hegni ar
y lleiafrif sydd wedi bod yn or-ddibynnol ar ‘grantiau’ o Ewrop ar hyd y
blynyddoedd cyn ystyried codi bys i gychwyn menter ar eu liwt eu hunain.
Briwsion yn unig oedd y cardod hynny beth bynnag mewn cymhariaeth i’r cyfoeth
ariannol mae ein cenedl wedi ei golli trwy golli’r hawl a’r cyfleoedd i fod yn
hunangynhaliol.
I ddiweddu ar nodyn addawol, pleser o’r mwyaf
oedd gweld cymaint o faneri Glyndŵr yn chwifio ar hyd a lled y wlad ar Ddydd
Gŵyl Dewi eleni. Mewn gwahanol eitemau a ymddangosodd ar y teledu gwelais y
mwyafrif o rain wrth gwrs, mae’n amhosibl i hyd yn oed fi fod ym mhob rhan o
Gymru ar yr un pryd, nid Owain
Glyndŵr mohonof ond, fe wnes i weld ymdrech Abertawe a fy llygaid fy hunan a,
chwarae teg, roedd Cyngor Tref Abertawe wedi codi baner Glyndŵr enfawr ar y
sgwâr ger y castell drwy gydol yr wythnos ac, ymhellach wedi gosod dwy o rai
eraill ar gefn y llwyfan lle'r oedd y perfformwyr yn perfformio. Yn ogystal,
gwelais sawl baner yn cael eu chwifio ar bolion a rhai eraill yn cael eu gwisgo
gan unigolion yn y dorf. Dwi wedi gweld rhai yn nwylo neu yn cael eu gwisgo gan
gefnogwyr Rygbi yn ystod Cystadlaethau’r
chwe gwlad yn ogystal. Da iawn wir dref a phoblogaeth Abertawe a Chymru
benbaladr am ddangos fod dyhead Glyndŵr am sofraniaeth yn fyw o hyd. Mae’n
gwneud llawer mwy o synnwyr i ni fel Cymry sydd am fyw mewn cenedl Annibynnol
hunangynhaliol i chwifio baner Glyndŵr, sef y faner sy’n sefyll dros ein
Sofraniaeth fel cenedl anrhydeddus a hyderus nag i chwifio baneri Ymerodraethol
Prydain a’r Undeb Ewropeaidd gwallgof.
Os oes rhywun am gael baner Glyndŵr enfawr 5 X 8
troedfedd. Mae gen i nifer cyfyngedig am £12 yr un yn ogystal â chost cludiant
o £2. Cysylltwch â fi ar e-bost sifl@hotmail.co.uk <mailto:sifl@hotmail.co.uk>
i fynegi diddordeb.
Yn
gywir.
Siân
Ifan