COFIO/ REMEMBER OGEMAHWAHEWABE (Mark Banks)
Bu Dennis yn flaengar yn meddiannu Ynys Alcatraz yn 1971 yn ogystal â, gyda, Russell Means, meddiannu a gwneud safiad yn Wounded knee yn 1973. Prif amcanion AIM oedd gorfodi Llywodraeth yr Unol Daleithiau i gydnabod y Cytundebau hanesyddol a wnaed gan y Llywodraeth ynghyd a chydnabod Sofraniaeth ac iawnderau dynol yr Indiaid brodorol gan fod y cytundebau wedi cael eu hamharchu a'u torri dro ar ôl tro ers eu ffurfio gyda'r Indiaid yn y 19ganrif. Ac yn yr 1980au, roedd y cytundeb a ffurfiwyd yn Fort Laramie yn 1868, cytundeb a oedd yn fod i ganiatáu i'r Indiaid fyw yn heddychlon yn y Bryniau Duon yn cael ei dorri unwaith eto gyda chynllun enfawr newydd i fwyngloddio ar y Bryniau a thaflu 10,000 o frodorion allan o'u cartrefi yn y broses.
Ymateb AIM oedd mynd a'r achos i'r Uchel Lys, eto, a gosod gwersyll o aelodau AIM ar y Bryniau Duon i warchod y trigolion. Yn ogystal fe yrrwyd brawd hynaf Dennis, sef Mark Banks, ar bererindod ar hyd a lled Ewrop i dynnu sylw ac ennyn cefnogaeth i'r ymgyrch.
Roeddem mewn cysylltiad ac AIM ers y 1960's ac yn cydymdeimlo'n llwyr a'u hymgyrchoedd gan inni fod yn cydnabod fod yna debygrwydd rhwng yr hyn oedd wedi digwydd i'r Cymry dros y canrifoedd a'r hyn oedd wedi digwydd i'r Indiaid brodorol yn yr Amerig ac, wrth gwrs, roedd brwydrau'r ddwy genedl yn parhau. Felly, pan gysylltodd AIM i ofyn i ni a fyddai COFIWN yn gallu cynorthwyo trwy drefnu i Mark allu tynnu sylw at eu hachos presennol yng Nghymru roeddem yn fwy na bodlon cynorthwyo wrth gwrs.
Aethom ati'n syth i drefnu 'Taith Siarad' i Mark mewn neuaddau ar hyd a lled Cymru, ac yn ogystal, trefnwyd iddo gael cyfweliadau ar y cyfryngau, teledu a radio. Bu'n aros gyda ni yn Aberystwyth am wythnos dra ar y daith ac aethom a fo i gyfarfod â'r aelod Seneddol, Dafydd Wigley, yn ei gartref yng Nghaernarfon ac yn ddiweddarach, aeth Dafydd Wigley a Mark i'r Tŷ Cyffredin yn San Steffan i ymofyn cefnogaeth y Tŷ hwnnw i'r ymgyrch ac fe gafwyd hynny os dwi'n cofio'n iawn.
Yn ogystal, aethom a Mark i Nant Gwrtheyrn, lle gawsom ginio a lle cafodd ei ddiddanu gan Dafydd Iwan (mewn cyfnod pryd oedd gan y canwr hwnnw fod o egwyddorion nag arian )
ac, yn ogystal, aethom lawr i berfeddion Chwarel Llechwedd ym Mlaenau Ffestiniog gan fod Mark am weld lle roeddwn wedi cael fy magwraeth. Yn anffodus, dwi wedi methu a chael hyd i lun o Mark yn mynd i lawr i'r pwll yn Chwarel Llechwedd ond fe wn ei fod ar ffilm yn fy archif ffilm ac mae yn archif ffilm Ty Cenedl yn y Llyfrgell Genedlaethol yn ogystal.
Aethom ymlaen i Abergele gan ei fod yn awyddus i dalu teyrnged i'r merthyron yno.
Rwan...y newyddion trist.
Clywsom fod Mark bellach wedi ymadael ers mis Awst llynedd i fyw ymysg ei gyndeidiau Roedd yn 89 oed, Pleser o'r mwyaf oedd cael y cyfle a'r fraint i gyfarfod a chael wythnos yng nghwmni rhyfelwr ac enaid môr ddiffuant. Parch o'r mwyaf i ti Mark ac i bob rhyfelwr ac ymgyrchydd sy'n parhau hyd heddiw i gael cyfiawnder i'r Indiaid brodorol.
Y teyrnged orau allem i gyd wneud erbyn hyn er cof am Mark a'r cyfan o'r Indiaid brodorol sydd wedi ymladd ac aberthu cymaint i ennill eu tir ac iawnderau dynol yn ôl yw i gefnogi'r alwad i ryddhau Leonard Peltier sydd wedi ei garcharu ers 1976 a hynny heb unrhyw dystiolaeth yn ei erbyn. Mae Leonard yn hen ŵr erbyn hyn a dylid ei ryddhau er mwyn iddo gael y chydig o amser sydd ganddo ar ol yng nghwmni ei deulu. Gellir cefnogi Leoanard mewn dwy ffordd fel a ganlyn:
Llythyru'n uniongyrchol ato i fynegi eich cefnogaeth i: Leonard Peltier, 89637-132, USP Coleman1' P.O. BOX 1033. Coleman, Fl 33521.
Hefyd ac yn ogystal, gellir arwyddo'r ddeiseb i'w ryddhau. Gellir cael y manylion hynny ynghyd a llawer mwy yn y ddolen gyswllt yma:
https://www.whoisleonardpeltier.info/
Ac mae Sinn Fein wedi gwneud ffilm yn 2012: https://www.youtube.com/watch?v=o2hykHSthbc
Mae Lenoard wedi bod yn y carchar am ei fod yn Indian brodorol ers bron i hanner canrif bellach: LLOFNODWCH Y DDEISEB IDDO GAEL RHYW FATH O GYFIAWNDER CY IDDO GWRDD A MARK!
Ffilm arall gwerth ei gwylio am y safiad yn Wounded Knee:
https://www.imdb.com/title/tt0110297/
Fersiwn Saesneg i ddilyn yn y blog nesaf. English Version to follow in next blog.
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home