Thursday 29 October 2020

Llythyr Templed Gorau i Gymru i Julie James AS. Gorau i Gymru's Template Letter to Julie James SM.

COPIWCH, LLOFNODWCH A GYRRWCH I JULIE JAMES. COPY, SIGN AND SEND TO JULIE JAMES. CYFEIRIAD YW/ADDRESS IS: JULIE JAMES SM,  11 Wind St, Swansea SA1 1DP, 

E: mail:  Julie.James@senedd.wales

Annwyl Julie James, 

Ysgrifennaf atoch i fynegi fy mhryder mawr ynglŷn â’r sefyllfa dai argyfyngus yng Nghymru. Rwyf wedi gweld eich ateb sarhaus o ddifater i’r llythyr gan Gyngor Cymuned Llanaelhaearn yn mynegi’r un pryderon, ac rwyf wedi fy nghythruddo.

Mae nifer y tai haf yng Nghymru wedi cynyddu’n aruthrol, yn enwedig mewn rhai ardaloedd. O’r holl dai a werthwyd yng Ngwynedd y llynedd, gwerthwyd 40% ohonynt fel tai haf, 36% yw’r ffigwr yn Sir Fôn, 30% yn Abertawe, 29% yn Sir Benfro, 28% yng Nghonwy. Mae hyn yn cael effaith ofnadwy ar brisiau tai yma ac ar allu pobl leol i brynu tai yn eu cymunedau. Gan mai ychydig iawn o elw na swyddi mae tai haf yn ei gynhyrchu i bobl leol, mae’r cyflogau isel yn yr ardaloedd hyn yn golygu bod prisiau tai yn eu pentrefi a’u trefi yn aml ymhell o’u cyrraedd.

Nid yn unig bod tai sy’n bodoli eisoes yn cael eu gwerthu fel tai haf ac yn golygu bod prisiau tai yn codi y tu hwnt i afael bobl leol, ond mae Llywodraeth Cymru a/neu’r cynghorau yn caniatáu i dai haf newydd gael eu hadeiladu. Mae ystadau o dai yn cael eu codi yn ardaloedd arfordirol Cymru sydd â phrisiau ymhell y tu hwnt i afael bobl leol ac sy’n anelu’n gwbl agored at y farchnad dai haf. Ac i dynnu blewyn arall o drwyn y bobl leol, mae hen enwau Cymraeg yn cael eu disodli gan enwau di-ddychymyg a di-gysyllt Saesneg.

Mae’r broblem dai haf yn cael effaith andwyol iawn ar y Gymraeg yn ein cymunedau. Yn 2011, roedd 65.4% o boblogaeth Gwynedd yn siarad Cymraeg, 57.2% o boblogaeth Sir Fôn a 43.99% o boblogaeth Sir Gâr, nid oes unrhyw amheuaeth y bydd y ffigyrau hyn wedi dirywio’n sylweddol erbyn y cyfrifiad nesaf yn 2021.

Un o bolisïau eich llywodraeth yw cyrraedd targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, os na fyddwch yn cymryd camau ar fyrder, ni fydd gennych unrhyw obaith o gwbl o gyrraedd y targed hwnnw. Bydd cadarnleoedd yr iaith wedi diflannu a bydd y Gymraeg yng Nghymru mewn sefyllfa debyg iawn i’r Wyddeleg yn yr Iwerddon – plant yn dysgu’r iaith yn yr ysgol ond yn gwneud braidd dim defnydd ohoni hi wedyn a’r iaith wedi diflannu fel iaith gymunedol. Chi yw ein llywodraeth ni, ni yw eich hetholwyr chi – nid perchnogion tai haf! Dylech ganolbwyntio ar ein hanghenion ni a chymryd camau i unioni’r sefyllfa drychinebus hon ar unwaith ac mae Mudiad 'Gorau i Gymru' sef, mudiad sydd newydd ei sefydlu i weithredu fel modd o dynnu sylw at maint y çreisis wedi  darparu naw o newidiadau polisiau tai newydd sydd eu hangen ar unwaith os am unrhyw obaith o leddfu'r 'creisis.

  Dyma'r Polisiau sydd ei hangen:

• Annog cynghorau i godi cyfradd uwch o dreth cyngor ar dai haf.

 • Cymryd camau i rwystro perchnogion tai haf rhag cael eu heithrio o dalu treth y cyngor.

 • Rhoi cap o 5% ar nifer y tai haf a ganiateir mewn unrhyw gymuned.

 • Gwrthod caniatâd i godi tai haf newydd ac addasu adeiladau i’w troi’n dai haf.

 • Caniatáu i bobl leol sy’n eiddo ar dir amaethyddol godi tai ar y tir hwnnw, ar yr amod eu bod yn gallu profi cysylltiad lleol ac wedi bod yn byw yn yr ardal honno ers o leiaf 10 mlynedd.

 • Gwneud mwy o ymdrech i sicrhau bod tai fforddiadwy ar gael i bobl leol i’w rhentu neu eu prynu.

 • Deddfu er mwyn rhwystro perchnogion tai rhag newid enwau Cymraeg lleol neu roi enwau Saesneg ar dai newydd.

 • Cyfyngu’r cynllun Cymorth i Brynu i bobl sydd yn byw yn yr ardal leol ers o leiaf 10 mlynedd.

 • Darbwyllo’r Arolygaeth Gynllunio i ystyried materion ieithyddol cyn diystyru. 

Rydych yn nodi yn eich llythyr bod “cydbwysedd cymhleth a bregus i’w daro rhwng diwallu anghenion cymunedau lleol; hawl pobl i fwynhau eiddo; gallu pobl i fforddio byw yn y cymunedau maent wedi magu ynddynt; cyfraniad pwysig ymwelwyr i’r [sic] economi; a chyfraniad teg gan ymwelwyr a pherchnogion ail gartrefi”. Gadewch imi eich sicrhau, nad ydych chi fel llywodraeth yn gwneud unrhyw beth o gwbl i daro unrhyw fath o gydbwysedd yn y mater hwn a gellir fesur anfodlonrwydd pobl Cymru gyda'r sefyllfa o 'greisis' gyda'r ffaith bod dos 1,000 o Gymry wedi ymuno a Mudiad Gorau i Gymru o fewn ychydig wythnosau! Felly, mae angen gweithredu 'sydyn ar ran Llywodraeth Cymru.

English version of template letter:Dear Julie James SM,

 I am one of the many concerned enough to write to you to express my deep concern regarding the critical housing situation in Wales. I have seen your dismissive reply to the letter from Llanaelhaearn Community Council expressing the same concerns, and I am perturbed. You state in your letter that “there is a complex and delicate balance to be struck in meeting the needs of local communities; the right to enjoy a property; the ability of people to be able to afford to live in the communities in which they grew up; the important contribution of the visitor economy; and visitors, and second home owners, making a fair contribution”. Let me assure you, that you as a government are not doing anything at all to strike any kind of balance in this matter.

 The number of second homes in Wales has increased dramatically, particularly in some areas. Of all the houses sold in Gwynedd last year, 40% were sold as second homes; the figure is 36% in Anglesey, 30% in Swansea, 29% in Pembrokeshire, and 28% in Conwy. This is having a huge impact on house prices and on the ability of local people to buy houses in their communities. As second homes generate very little employment and very little income for local people, the low wages in these areas mean that house prices in their towns and villages are often far beyond their means.

It isn't only existing housing stock that is being marketed and sold as second homes, and thus being pushed well out of the reach of local people, but the Welsh Government and/or councils are permitting brand new houses to be sold as second homes to be built. Housing developments are being built in coastal areas of Wales that are priced well out of the budgets of most local families and are being openly marketed specifically as second homes.
The holiday home issue is also having a detrimental effect on the Welsh language in our communities. In 2011, 65.4% of the population of Gwynedd spoke Welsh, 57.2% of the population of Anglesey and 43.99% of the population of Carmarthenshire; and there is no doubt that these figures will have declined significantly by the next census in 2021.

One of your government's policies is to reach a target of a million Welsh speakers by 2050, however, unless you take urgent action, you have no hope of reaching that target. The strongholds of the language will have disappeared and the Welsh language in Wales will be in a very similar position to Irish in Ireland - children will learn the language at school but will make little use of it afterwards and the language will have died as a community language. You are our government; we are your constituents - not the owners of second homes! You should focus on our needs and take immediate action to remedy this catastrophic situation.

A movement named  'Gorau I Gymru' (Best for Cymru) has come into existence in order to combat this current crises and it is indicative of the prevailing anger that over 1,000 people have joined this new movement in a matter of weeks!  Gorau I Gymru have produced 9 policy changes which urgently''  needs to be put into action by the Welsh Government and all County Councils of Cymru if the current çrises' is to be resolved.

The policy changes needed are as follows::

• Encourage councils to increase the council tax on second homes;
• Take action to close all loopholes which enable second home owners to be exempted from paying council tax;

• Introduce a 5% cap on the number of second homes allowed in any one community.

• Refuse planning permission for new-build second homes, as well as for buildings to be adapted for use as second homes.

• Permit local owners of agricultural land, to build homes for their families on that land, provided that they can prove a local connection and that they have lived in that area for at least 10 years.
• Increase efforts to make affordable housing available for local people to rent or buy;

• Legislate to prevent home owners changing Welsh house names to English, or putting English names on new houses;

• Restrict the 'Help to Buy' scheme to people who have lived in the area for at least 10 years.

• Press upon the Planning Inspectorate to give due regard to the Welsh language before overruling decisions made by local councils and on appeal.You also state in your letter that you are "fully committed to working hand-in-hand with partners, including local government and across the Welsh Government and the Senedd, to achieve an effective and practicable reconciliation of the various interests"

I would  strongly suggest that you review your "commitment" and take immediate steps for the benefit of your constituents in the tourist areas of Cymru. If no action is taken as a matter of urgency, the traditional communities of Wales will disappear for ever, we will lose our young people, our language, our identity, and our future. 

Yours faithfully

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home