Thursday 10 September 2020

Y diweddara parthed y ddeiseb i newid polis TAN 6 Senedd Cymru fel iddo fod yn gymwys ar gyfer Cymry brodorol yn unig. Update on the rejected petition to change the Senedd's TAN 6 policy to make it applicable to indigenous Cymry only.


Parthed y ddeiseb yn gofyn i Senedd Cymru newid eu polisi TAN 6, os ydych yn cofio wnes yrru llythyr yn ôl i ddweud fy mod yn anhytuno a'u penderfyniad i beidio a derbyn y ddeiseb. Cefais ymateb, a dwi wedi ymateb yn ôl eto. Mae'r ohebiaeth dwyieithog yn dilyn.

In regards to the petition calling on the Senedd to change their TAN 6 policy to be applicable to indigenous Cymry only, you will recall that they refused the petition so, I wrote back to them to voice my reasons for disagreeing with their refusal of the aforementioned petition. They replied and then, I replied to their reply. The bilingual correspondence follows.
 From: petitions@senedd.wales
Sent: ‎Tuesday‎, ‎8‎ ‎September‎ ‎2020 ‎09‎:‎11
To: Sian Ifan
Cc: petitions@senedd.wales

Annwyl Ms Ifan
 Diolch am eich e-bost. Rwy’n cydnabod eich bod wedi’ch siomi yn y penderfyniad i beidio â derbyn y ddeiseb hon.
 Er eich bod yn gywir pan ddywedwch mai Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am bolisi TAN6 ac y byddai deiseb ynghylch cynnwys y polisi hwnnw fel rheol yn dderbyniadwy, mae rheolau deisebau'r Senedd yn nodi na chaiff deisebau ofyn i'r Senedd wneud unrhyw beth nad yw’r pŵer ganddi i'w wneud.  Yn ein barn ni, byddai'r camau y mae’r ddeiseb yn gofyn i’r Senedd eu cymryd yn mynd yn groes i’r ddeddfwriaeth bresennol, fel yr amlinellwyd yn ein hymateb blaenorol.
 Yn ôl Deddf Cydraddoldeb 2010 a Deddf Cysylltladau Hiliol 1976, mae’n anghyfreithlon gwahaniaethu ar sail hil, lliw, cenedligrwydd (gan gynnwys dinasyddiaeth) a tharddiad cenedlaethol neu ethnig. O gofio hyn, nid oes gan y Senedd y pwerau i gymryd y camau a nodir yn eich deiseb.

 Rwy'n ymwybodol bod awdurdodau lleol mewn rhai ardaloedd wedi gosod cyfyngiadau ar ddeiliadaeth eiddo i ddiwallu anghenion tai lleol (erenghraifft: 

https://www.northyorkmoors.org.uk/planning/framework/housing-policies). Efallai yr hoffech ystyried hyrwyddo'r math hwn o bolisi, er mai cyfrifoldeb awdurdodau lleol unigol fyddai bwrw ymlaen â pholisi o’r fath, yn hytrach na’r Senedd neu Lywodraeth Cymru.
 Gobeithio y bydd y wybodaeth hon yn helpu rhywfaint. 
 Cofion cynnes 

 Dear Ms Ifan

 Thank you for your email, I acknowledge that you are disappointed by the decision not to accept this petition.
 Whilst you are correct to state that the TAN6 policy is the responsibility of the Welsh Government and a petition concerning the contents of that policy would ordinarily be admissible, the Senedd’s petitions rules state that petitions may not ask the Senedd to do anything which it clearly has no power to do.  In our view, the action called for by the petition would breach existing legislation as outlined in our previous response.
 The Equality Act 2010 and the Race Relations Act 1976 mean that it is illegal to discriminate on grounds of race, colour, nationality (including citizenship), and national or ethnic origin. Given this, it is not within the Senedd’s powers to take the action called for within your petition.
 I am aware that in some places local authorities have implemented occupancy restrictions upon properties to safeguard hosing for local needs (for example: https://www.northyorkmoors.org.uk/planning/framework/housing-policies). You may wish to consider promoting this type of policy as an alternative, though it would likely be the responsibility of individual local authorities to take such a policy forward, rather than the Senedd or Welsh Government.
 I hope that this information is of some help.
 Kind regards 
 Graeme Francis
Clerc, Y Pwyllgor Deisebau, Senedd Cymru
Clerk, Petitions Committee, Welsh Parliament

Dyma fy ateb i'r uchod.  Here's my reply to above. Bilingual versions.

Annwyl Mr Francis,

Diolch am eich ebost yn cynnig yr union esboniad a gynigwyd yn wreiddiol dros beidio a derbyn y ddeiseb dan sylw.
Mae’n rhaid i finnau ailadrodd a phwyntio allan i chi eich bod yn sathru ar hawliau dynol y Cymry fel hil ethnig drwy ddyfeisio polisiau fel TAN 6 sy’n eu gosod dan adfantais pan yn cystadlu am dir i adeiladu tŷ a menter hunan gynhaliol yn eu gwlad treftadol a dylai’r Cymru gael y cyfle drwy’r ddeiseb i newid y polisi fel iddo fod ar gyfer y Cymry brodorol yn unig.
Cynigiaf mai dyletswydd Llywodraeth Lloegr yw darparu polisiau tebyg er budd pobl Lloegr ar gyfer prynu tir ac adeiladu cymunedau ‘Un Blaned’ yn Lloegr, ac nid dyletswydd Senedd Cymru i hwyluso’r ffordd i’r cymunedau ‘un blaned’ estron eu natur yma gael eu plannu yn Nghymru. 
Mae’r policy wedi bod mewn bodolaeth ers 2008 ac mae Llywodraeth Cymru, ers hynny, wedi methu’n llwyr yn eu dyletswydd i roi gwybod i’r Cymry brodorol am fodolaeth y polisi, tra, ar y llaw arall, yn cynorthwyo y cwmni Lammas, sydd a’u pencadlys yn Lloegr, i mewnfudo grwpiau o mewnfudwyr i Gymru i adeiladu’r cymunedau ‘Un Blaned’ a chychwyn mentrau hunan gynhaliol - a hynny gyda chymorth ariannol o bwrs Llywodraeth Cymru.

Dyletswydd Llywodraeth Cymru yw i warchod Cymunedau Cymreig a Chymraeg a’r Cymru sydd yn byw yn y cymunedau hynny ac nid i osod polisiau mewn lle sydd, mewn amser, yn mynd i ddileu’r cymunedau cynhenid.
Mae’r polisi Tan 6 fel mae’n sefyll, yn fygythiad enfawr i’r ffordd Gymreig traddodiadol  o fyw ac yn sicr yn fygythiad i’r iaith a diwylliant Cymreig a gellir ddim cael y dreftadaeth pwysig hynny yn ei  ôl unwaith mae’r cyfan wedi mynd - wrth i mwy a mwy o mewnfudwyr gymryd mantais o’r policy gyda chymorth y cymunedau ‘Un Planed’ sydd wedi eu sefydlu yma’n barod. Mae hyn yn gosod y Cymry o dan adfantais wrth iddyn nhw geisio cystadlu am dir i adeiladu tai a mentrau hynangynhaliol ac oherwydd, mae’r polisi TAN 6  yn annhêg  parthed iawnderau cyfartal y Cymry brodorol ac fe ddylem gael yr hawl democrataidd i leisio barn ar yr angen i newid y polisi.  

Rydych yn nodi bod rhai Awdurdodau lleol mewn rhai ardaloedd wedi gosod cyfyngiadau ar ddeiliadaeth eiddo i ddiwallu anghenion tai ac yn roi dolen i Ogledd Swydd Efrog fel un engraifft; gallaf feddwl am llawer mwy o engreifftiau a dwi’n cymryd bod Awdurdodau Lleol a’r hawl i wneud yr un peth yn Nghymru o dan y ‘Ddeddf  Brogarwch’ ond, mater arall yw hynny.  Yr hyn sydd dan y chwyddwydr yma yw polisi TAN 6 Llywodraeth Cymru ac nawr, gan bod y Cymry bellach yn cael gwybodaeth am fodolaeth y polisi ac, sut mae’n cael ei weithredu, dwi’n sicr na fyddai ar fy mhen fy hunan yn mynnu iddo gael ei newid fel iddo fod o fudd i’r Cymry brodorol. 

Many thanks for your email repeating your original reasoning for not accepting the petition in question.
I will now also have to repeat my reasoning for disagreeing with your decision on the grounds that the Welsh Government is discriminating against the rights of the Cymry as an ethnic race with the Tan 6 policy as it stands.

The policy has been in operation since 2008 and the Welsh Government has failed in its duty to make the Cymry aware of its existence whilst fully cooperating with the English based company Lammas to relocate groups of outsiders to Cymru to build ‘One Planet’ communities with assistance of Welsh Government funding. 
 will suggest that it is up to the English Government to decide if they wish to implement a similar policy to enable ‘One Planet Communities to be established in England, they have decided not to, so, I would suggest that the Welsh Government’s role should be to protect Cymric Communities and the interest of the indigenous Cymry and not to facilitate a situation that will ultimately destroy Cymric communities. 
Not only does the TAN 6 policy as it stands, endanger the indigenousness fabric of a Cymric way of life, traditions and language, in a way that can never be reversed as more outsiders take advantage of the policy assisted by Lamas and settler groups that have already established communities and ventures here, it places indigenous Cymry at a disadvantage when competing for land to build a home and start a venture in their homeland as they have to compete against groups of outsiders and Lammas. The TAN 6 policy therefore is unfair to the equal rights of the Indigenous Cymry and they should have the democratic right to voice an opinion on the need to change the policy. 

You say that some local authorities have implemented occupancy restrictions upon properties to safeguard housing for local need and give a  link to North Yorkshir, well I could quote many more and I’m assuming Local Councils in Cymru will also be able to do likewise under the Localism Act? But, that is a totally different issue to the need to change the  Welsh Government TAN 6 policy  and now  that the Cymry are being made aware of its existence and how it is implemented, I’m sure that I will not be alone in demanding it is changed to be of benefit to the Cymry.
Yn gywir
Siân Ifan

Felly, sgwennwch at Mr Francis, i fynnu eu bod yn derbyn y ddeiseb. Dyna yw'r broses democrataidd.
So, write to Mr Francis to 'insist' they accept the petition; that is the democratic process.