Saturday 13 February 2021

Y DIWEDDARA AR Y DDEISEB I ACHUB COLEG HARLECH....LATEST NEWS ON THE PETITION CAMPAIGN TO SAVE COLEG HARLECH FOR THE CYMRIC NATION

Mae'r llofnodion hyd yma wedi cyrraedd 5,653, mae hyn yn wych a diolch mawr iawn i pawb ohonoch sydd wedi llofnodi ond, gan bod y Senedd wedi symud y pyst goal i ofyn am 10,000 o lofnodion, tybed oes modd cyrraedd 6,000 erbyn amser cinio, 8,000 erbyn diwedd y dydd a'r 2,000 yn weddill erbyn y dyddiad cau fory? Mae gen i ffydd ynom fel cenedl bod hyn yn bosibl. Dewch i ni gael rhywbeth i lawenhau ynddo wedi'r cyfnod hir yma o ddiflasdod tywyll Covid 19.

Fel modd o gryfhau'r achos, dwi wrthi'n casglu 'tystlythyrau' oddi wrth cyn fyfyrwyr sydd wedi bod yn ddigon lwcus o gael y profiad o fod yn fyfyriwr yn y Coleg ac, yn ogystal hoffwn dderbyn 'tystlythyrau' tebyg oddi wrth trigolion lleol Harlech a chyn weithwyr yn y Coleg. Mae'n holl bwysig dangos i Senedd Cymru pa mor bwysig oedd y Coleg i'r economi lleol. Er engraifft, gweler y dysglythyr gwych yma dderbyniais ddoe oddi wrth un o drigolion Harlech:
"Ga’i hefyd ddweud Sian, Mor bwysig oedd y Coleg i ein tref Harlech, sef yn cyflogi pobl lleol ag y Coleg, myfyrwyr a’r staff yn cyfrannu i economi y dref. Ac ysturio fod y dref a’r ei glinniau erbyn hyn, yn dref tlawd Iawn gyda dim diwydiant ac yn dennu pobl lleol o’r ardal. Fel Cymru Cymraeg, ni allwn goroesi gyda twristiaeth a tai haf yn unig, gan fydd hyn yn lladd ein tref, ein Iaith, ag ein diwilliant. A buasai ail agor y Coleg yn rhoi hwb i’n tref. Gyda Diolch"
Bethan F Jones
Bydd y tystlythyrau yn cael eu hanfod i'r pwyllgor deisebau fel cefnogaeth i'r ddeiseb, os oes rhywun am gyflwyno tystlythyr, bydd yn rhaid iddo fy ngyrraedd ar ebost sifl@hotmmail.co.uk erbyn hanner dydd ar y 17 o Chwefror. Diolch.
Mae BBC Cymru'n fyw wedi cyhoeddi eitem reit fawr ar y pwnc y bore ma' dyma'r ddolen gyswllt:
LATEST NEWS ON THE PETITION TO SAVE COLEG HARLECH.
Signatures currently stands at 5,653 and this is great! and many thanks to all of you who have signed and shared already but, as we all know, the Welsh Government's Petition Committee have moved the goal posts and now are demanding £10,000 signatures and the petition closes tommorrow night! So, can we all make a final big push to try and get the numbers up to 6000 by lunchtime, 8,000 by the end of tonight and the remaining 2,000 by the end of tommorrow. CAN WE DO IT ...YES, WE CAN! Let's have something to celebrate in at long last following this long dark depressing period bought about by the Covid 19 pandemic.
I am also currently collecting testimonials from ex students, ex workers and from Harlech locals in regards to their experiences of Coleg Harlrch - and already, some great testimonials have come through. All will be very useful as supporting material for the petition and if anybody wishes to send me testimonials, they should be sent to my email box at sifl@hotmail.co.uk and should reach me by noon, 17th Feb at the latest. Many thanks.

https://petitions.senedd.wales/petitions/200218

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home