Tuesday 30 June 2020

CAMPAIGN PETITION TO REMOVE EDWARD VIII STATUE AT OLD COLLEGE UCW ABERYSTWYTH.


https://www.change.org/p/aberystwyth-university-college-removal-of-the-edward-viii-statue-from-the-site-of-the-old-college-aberystwyth-cymru?recruiter=290305657&utm_source=share_petition&utm_medium=facebook&utm_campaign=share_petition&utm_te





Deiseb

Fel canlyniad i'r modd milain a chyhoeddus bu i George Floyd gael ei ladd yn Minneapolis, Minesotta yn ddiweddar, bu llu o brotestiadau yn yr Amerig a Phrydain a bu i'r protestiadau hyn sparduno deffroad a chydnabyddiaeth o'r newydd o hanes trefedigaethol Prydain ledled y byd. Mae'r deffroad yma wedi annog protestwyr cynddeiriog i droi eu sylw tuag at symbolau o goloneiddio, megis placiau a cherfluniau yn bennaf, ac mae hyn, hyd yma, wedi arwain tuag at gael gwared â cherfluniau o Christopher Columbus yn yr Amerig yn ogystal ag un o Edwart Colston ym Mryste, Lloegr.

Mae Cymru hefyd, wrth gwrs, yn drefedigaeth o Brydain ac mae 'na ddigonedd o symbolau trefedigaethol,bydded iddyn nhw fod mewn ffurfiau placiau, cherfluniau neu enwau strydoedd wedi eu gosod mewn lle ar hyd a lled ein cenedl i glodfori a choffau ein coloneiddwyr ni. Felly, yn yr oes gwawriol sydd ohoni lle mae'r Cymry yn mynegi hyder o'r newydd yn eu cenedligrwydd drwy, unwaith eto, orymdeithio ar hyd y ffordd i Annibyniaeth, oni ddylem ninnau, yn ogystal, fod yn troi ein sylw tuag at waredu ein tir o'r atgofion dyddiol yma o'n sefyllfa drefedigaethol?

O achos y rhesymau a roddir, mae Llysgenhadaeth Glyndŵr yn galw ar Brifysgol Cymru, Aberystwyth i gael gwared ar y cerflun o Edwart VIII a godwyd ar dir yr Hen Goleg.

Wedi i'r Edwart yma ildio coron Lloegr, adnabyddid ef fel Dug Windsor, cefnogwr a chydweithredwr brwd â'r Natsïaid a merchetwr o fri ac wedi iddo ildio'r goron, roddwyd y swydd o Lywodraethwr ar y Bahamas bell iddo, lle bu iddo ddatblygu i fod yn Lywodraethwr llygredig; dim y math o bersonoliaeth sy'n addas fel rôl-model i fyfyrwyr nac i neb arall.

Mae'r llofnodion ar y ddeiseb yn ardystio i'r alwad i'r cerflun dan sylw gael ei godi a'i ddiddymu o Gymru gan ei fod yn sumbol trefedigaethol annymunol, iselwaeliedig.



******************************